Use BBC.com or the new BBC App to listen to BBC podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Find out how to listen to other BBC stations

Episode details

Radio Cymru,1 min

Series2013

Telyneg neu Soned: Plygu.

Y Talwrn

Available for over a year

“I have been bent and broken, but -I hope- into a better shape.” (Emily Dickinson) Ar arfordir moel Ceredigion, ar gyrion y gorllewin eithaf, ar y tir uchel uwchlaw Aberarth a Llanon, er enghraifft, fe welwch chi'r coed – a ydynt yn haeddu'r enw coed? - yn gwrthod edrych ar y môr, yn troi eu cefnau ar y tonnau hyn sydd yn siarad mewn legato gwyn, y melodïau'n blygion sydd yn tywallt yn ochneidiau ar y traeth. Ond, fan hyn, pan fydd y gwynt yn chwipio’i gynddaredd hen ar freuder rhisgl eu goroesiad ac yn rhwbio’r halen, unwaith eto, yn y briw, mae’r swildod, mae’r lletchwithdod hwn a’r ystum eisiau dianc – fel dynion ffatri Lowry yn eu cotiau tynn – mae hyn i gyd yn styfnigo gwraidd yn wyneb stormydd blin a cheir a charafanau a rhuo plygeiniol lorïau’r ffordd fawr. Dafydd John Pritchard – Y Cŵps 9.5 Cyfanswm Marciau: 72

Programme Website
More episodes