Main content

Telyneg neu Soned: Plygu.

“I have been bent and broken, but -I hope- into a better shape.”
(Emily Dickinson)

Ar arfordir moel Ceredigion, ar gyrion y gorllewin eithaf,
ar y tir uchel uwchlaw Aberarth a Llanon, er enghraifft,
fe welwch chi'r coed – a ydynt yn haeddu'r enw coed? -

yn gwrthod edrych ar y môr, yn troi eu cefnau ar y tonnau
hyn sydd yn siarad mewn legato gwyn, y melodïau'n blygion
sydd yn tywallt yn ochneidiau ar y traeth.

Ond, fan hyn, pan fydd y gwynt yn chwipio’i gynddaredd
hen ar freuder rhisgl eu goroesiad ac yn rhwbio’r halen,
unwaith eto, yn y briw, mae’r swildod, mae’r lletchwithdod hwn

a’r ystum eisiau dianc – fel dynion ffatri Lowry yn eu cotiau tynn –
mae hyn i gyd yn styfnigo gwraidd yn wyneb stormydd blin
a cheir a charafanau a rhuo plygeiniol lorïau’r ffordd fawr.

Dafydd John Pritchard – Y Cŵps
9.5

Cyfanswm Marciau: 72

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

1 funud