Episode details

Available for over a year
Mae arwydd mawr yn hongian tu fas – llun crand o gath fach dlws A llythrenne bras yn cyhoeddi’n ddel – ‘Croeso i Dafarn y Pws’. Ie, fi fy hun yw’r perchennog – wel, fi a hi y wraig, Ac ‘ma croeso mawr i bawb yn y byd – ond bod nhw’n siarad Cymraeg. A chi’n ffili gwahardd NHW rhag dod mewn, A smo fi’n un hiliol, ond jiawl ‘ma nhw’n ewn. Felly dim ond lle i un wrth y bar – man sefyll – rhwng dwy sgiw I’w stopo NHW rhag hogio’r lle, a jwmpo’r blydi ciw. Wele’n y gornel sệt Ianto wedi cysylltu ậ thrydan y ‘Mains’ Ac ‘ma unrhyw ymwelwr sy’n ishte yn hon yn fuan ffarwelio ậ’i Frains. Ma’ teledu mawr yn y gornel, yn chware ‘mond un D.V.D. – Cymru yn ddeg pwynt ar hugain, a Lloegr – pwr dabs – a jest tri. Enw’r barmaid yw Bronwen, a ‘ma’ nhw’, medde rhai wrtha i, Hon yn gwybod beth ma’ dyn yn moyn, - ma’ hi ‘di gweitho’n y B.B.C. Rwy’n galw stop tap am unarddeg – ail-ddechre am gwarter wedi, Ac mae’r canu yn wir fendigedig – ‘sneb o’r North yn y cỏr, sai’n credu. A dyna i chi fy nhafarn i – rhof groeso diwarafun I chi gyd ddod draw am ddiod rhad – Ond bydd cwrw am ddim i chi’r meuryn. Dewi Pwss 9
Programme Website