Main content

Cân Ysgafn: Y Dafarn Ddelfrydol.

Cân Ysgafn: Y Dafarn Ddelfrydol.

Mae arwydd mawr yn hongian tu fas – llun crand o gath fach dlws
A llythrenne bras yn cyhoeddi’n ddel – ‘Croeso i Dafarn y Pws’.
Ie, fi fy hun yw’r perchennog – wel, fi a hi y wraig,
Ac ‘ma croeso mawr i bawb yn y byd – ond bod nhw’n siarad Cymraeg.
A chi’n ffili gwahardd NHW rhag dod mewn,
A smo fi’n un hiliol, ond jiawl ‘ma nhw’n ewn.
Felly dim ond lle i un wrth y bar – man sefyll – rhwng dwy sgiw
I’w stopo NHW rhag hogio’r lle, a jwmpo’r blydi ciw.
Wele’n y gornel sệt Ianto wedi cysylltu ậ thrydan y ‘Mains’
Ac ‘ma unrhyw ymwelwr sy’n ishte yn hon yn fuan ffarwelio ậ’i Frains.
Ma’ teledu mawr yn y gornel, yn chware ‘mond un D.V.D. –
Cymru yn ddeg pwynt ar hugain, a Lloegr – pwr dabs – a jest tri.
Enw’r barmaid yw Bronwen, a ‘ma’ nhw’, medde rhai wrtha i,
Hon yn gwybod beth ma’ dyn yn moyn, - ma’ hi ‘di gweitho’n y B.B.C.
Rwy’n galw stop tap am unarddeg – ail-ddechre am gwarter wedi,
Ac mae’r canu yn wir fendigedig – ‘sneb o’r North yn y cỏr, sai’n credu.
A dyna i chi fy nhafarn i – rhof groeso diwarafun
I chi gyd ddod draw am ddiod rhad –
Ond bydd cwrw am ddim i chi’r meuryn.

Dewi Pwss

9

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

1 funud