Episode details

Available for over a year
Y Ffôn Clyfar Yn ofalus y’th folaf, declyn doeth. Dy gyfoeth gaf wrth law o hyd, gwyrthiau lu d’oferedd i’m difyrru. Ond toriad rhag y twrw er fy lles fai ar fy llw: e-byst maith, gwaith i’m llesgáu, a’r disgwyl am ryw dasgau! Nes dod neges gynhesach: “dy garu”. Daeth ennyd iach. Difar bawn dy fwrw bant - am ddeuair daw maddeuant. Sion Aled 9
Programme Website