Main content
Cywydd Mawl (heb fod dros 12 llinell): I unrhyw declyn.
Y Ffôn Clyfar
Yn ofalus y’th folaf,
declyn doeth. Dy gyfoeth gaf
wrth law o hyd, gwyrthiau lu
d’oferedd i’m difyrru.
Ond toriad rhag y twrw
er fy lles fai ar fy llw:
e-byst maith, gwaith i’m llesgáu,
a’r disgwyl am ryw dasgau!
Nes dod neges gynhesach:
“dy garu”. Daeth ennyd iach.
Difar bawn dy fwrw bant -
am ddeuair daw maddeuant.
Sion Aled
9
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Mwy o glipiau 30/06/2013
![]()
Trydargerdd: Yr hyn a gyflawnais heddiw.
Hyd: 00:09
![]()
Englyn ar y pryd: Priodas.
Hyd: 00:13
![]()
Cerdd Rydd: Digon
Hyd: 00:44
![]()
Pennill Ymson mewn canolfan alwadau.
Hyd: 00:31
Mwy o glipiau Y Talwrn
![]()
Limrigau Talwrn Ysgolion Gŵyl Gerallt
Hyd: 00:50
![]()
Talwrn Nadolig - tribannau
Hyd: 01:00
![]()
Talwrn Nadolig - limrigau
Hyd: 00:53
![]()
Cyfres newydd o'r Talwrn - rhif 46
Hyd: 02:29







