Use BBC.com or the new BBC App to listen to BBC podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Find out how to listen to other BBC stations

Episode details

Radio Cymru,28 Dec 2025,56 mins

Rhai o uchafbwyntiau Beti a'i Phobol 2025

Beti a'i Phobol

Available for 20 days

Rhaglen wahanol i'r arfer i nodi diwedd blwyddyn arall. Pytiau o rai o sgyrsiau Beti a'i Phobol 2025, gan ddechrau gyda dwy bennod gynta’r flwyddyn - tad a merch yn sôn am y hunlle brofon nhw fel teulu oherwydd ymddygiad anfaddeuol y Swyddfa Bost. Cawn glywed stori Siân Thomas a Noel Thomas. Fe awn wedyn i China i sgwrsio a Teleri Wyn Davies. Mae hi yn byw yn Shenzen, yn ne-ddwyrain y wlad, a'i gwaith yno yw hyfforddi rygbi merched. Fe gafodd Beti gwmni Glenda Jones-Williams o Frynaman yn wreiddiol sydd â swydd uchel yng nghwmni anferth Coca Cola. Mae'n is-lywydd pobol a diwylliant y cwmni yng ngogledd Ewrop, Asia ac ardal y Môr Tawel ac mae'n teithio'r byd gyda'i gwaith. Mae bywyd wedi bod yn hectic i'r awdur, y cyfansoddwr a'r dramodydd Daf James yn ddiweddar oherwydd llwyddiant ysgubol ei gyfres ddrama - Lost Boys and Fairies. Ond fe lwyddodd i dreulio awr fach yng nghwmni Beti George. Fe gawn hefyd gwmni'r Pianydd byd enwog o Bentrebychan, Llŷr Williams, Georgia Ruth, Mark Williams, Jess Davies, yr artist Gareth Parry a'r meddyg Dr Llinos Roberts.

Programme Website
More episodes

Tracklist

  1. Track
    Artist
  2. 1.
    Paid a Cau y Drws
    Paid a Cau y Drws
    Elin Fflur & Moniars
  3. 2.
    Gorwedd Gyda'i Nerth
    Gorwedd Gyda'i Nerth
    Eden
  4. 3.
    Duw Neu Magic
    Duw Neu Magic
    Georgia Ruth
  5. 4.
    Dal Yn Dynn
    Dal Yn Dynn
    Huw M