Main content

Rhai o uchafbwyntiau Beti a'i Phobol 2025

Beti George sydd yn edrych yn ôl ar 2025, gyda rhai o’r sgyrsiau a fu. Beti George reflects on some highlights of 2025, revisiting some memorable conversations from the year.

Rhaglen wahanol i'r arfer i nodi diwedd blwyddyn arall.

Pytiau o rai o sgyrsiau Beti a'i Phobol 2025, gan ddechrau gyda dwy bennod gynta’r flwyddyn - tad a merch yn sôn am y hunlle brofon nhw fel teulu oherwydd ymddygiad anfaddeuol y Swyddfa Bost. Cawn glywed stori Siân Thomas a Noel Thomas.

Fe awn wedyn i China i sgwrsio a Teleri Wyn Davies. Mae hi yn byw yn Shenzen, yn ne-ddwyrain y wlad, a'i gwaith yno yw hyfforddi rygbi merched.

Fe gafodd Beti gwmni Glenda Jones-Williams o Frynaman yn wreiddiol sydd â swydd uchel yng nghwmni anferth Coca Cola. Mae'n is-lywydd pobol a diwylliant y cwmni yng ngogledd Ewrop, Asia ac ardal y Môr Tawel ac mae'n teithio'r byd gyda'i gwaith.

Mae bywyd wedi bod yn hectic i'r awdur, y cyfansoddwr a'r dramodydd Daf James yn ddiweddar oherwydd llwyddiant ysgubol ei gyfres ddrama - Lost Boys and Fairies. Ond fe lwyddodd i dreulio awr fach yng nghwmni Beti George.

Fe gawn hefyd gwmni'r Pianydd byd enwog o Bentrebychan, Llŷr Williams, Georgia Ruth, Mark Williams, Jess Davies, yr artist Gareth Parry a'r meddyg Dr Llinos Roberts.

19 o ddyddiau ar ôl i wrando

56 o funudau

Darllediad diwethaf

Dydd Calan 202618:00

Cerddoriaeth a chwaraewyd

  • Elin Fflur & Moniars

    Paid a Cau y Drws

    • Harbwr Diogel.
    • SAIN.
  • Eden

    Gorwedd Gyda'i Nerth

    • Yn Ôl I Eden.
    • Recordiau A3.
    • 11.
  • Georgia Ruth

    Duw Neu Magic

    • Cool Head.
    • Bubblewrap Collective.
    • 3.
  • Huw M

    Dal Yn Dynn

    • UTICA.
    • Recordiau I KA CHING Records.
    • 5.

Darllediadau

  • Sul 28 Rhag 202518:00
  • Dydd Calan 202618:00

Archif Beti a'i Phobol

Archif Beti a'i Phobol

Lawrlwythwch rhaglenni Beti a'i Phobol o'r archif.

Podlediad