Sarah Gilford
Soprano from Wales - 29 years old
I began my vocal training at the age of nine and took part in a variety of performing opportunities in concerts, competitions and Eisteddfods. Earlier this year, I was the winner of the Welsh Singers Showcase 2021, which means I have the honour of representing Wales in BBC Cardiff Singer of the World, here in the city where I was born.
I studied at the Royal Academy of Music, where I was a chosen RAM/Kohn Foundation Bach Scholar and a member of the RAM Song Circle. During my studies I was recognised and supported by the Samling Institute, the Imogen Cooper Musical Trust and Leeds Lieder. These opportunities prepared me for concert work internationally including a performance of Fazil Say’s Goethe-Lieder with the Georgisches Kammerorchester.
I’m a member of the Bayerische Staatsoper Opernstudio in Munich where my roles for 2020/21 season included the title role in Mignon, Giannetta (L’elisir d’amore), Dew Fairy (Hänsel und Gretel), Shepherd (Tannhäuser) and Barbarina (Le nozze di Figaro).
Later this year, I will be joining the ensemble at Klagenfurt Stadttheater in Austria, where I will be performing a number of roles including Susanna (Le nozze di Figaro) and Gilda (Rigoletto).
During my free time, I enjoy baking and running, which I find complement each other well!
Sarah Gilford
Soprano, 29 oed, Cymru
Dechreuais fy hyfforddiant lleisiol yn naw mlwydd oed gan gymryd rhan mewn amrywiaeth o gyfleon perfformio, yn gyngherddau, cystadlaethau ac eisteddfodau. Yn gynharach eleni, deuthum yn fuddugol yn Llwyfan Cantorion Cymreig 2021, sy’n golygu y caf y fraint o gynrychioli Cymru yng Nghystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd, yma yn y ddinas lle cefais fy ngeni.
Astudiais yn yr Academi Gerdd Frenhinol, lle dewiswyd fi yn Ysgolor Bach yr Academi/Sefydliad Kohn ac yn aelod o Gylch Canu’r Academi. Yn ystod fy astudiaethau cefais gydnabyddiaeth a chefnogaeth gan Sefydliad Samling, Ymddiriedolaeth Gerdd Imogen Cooper a Leeds Lieder. Roedd y cyfleon hyn yn baratoad ar gyfer gwaith cyngerdd yn rhyngwladol gan gynnwys perfformiad o Goethe-Lieder Fazil Say gyda’r Georgisches Kammerorchester.
Rwy’n aelod o’r Bayerische Staatsoper Opernstudio yn Munich lle roedd fy rhannau ar gyfer tymor 2020/21 yn cynnwys y brif ran yn Mignon, Giannetta (L’elisir d’amore), Dew Fairy (Hänsel und Gretel), Bugail (Tannhäuser)a Barbarina (Le nozze di Figaro).
Yn ddiweddarach eleni, byddaf yn ymuno â’r ensemble yn Klagenfurt Stadttheater yn Awstria, lle byddaf yn perfformio nifer o rannau’n cynnwys Susanna (Le nozze di Figaro) a Gilda (Rigoletto).
Yn ystod fy amser rhydd, rwy’n mwynhau pobi a rhedeg, dau weithgaredd sydd, i mi, yn bâr da!


















