Plu
Brawd a dwy chwaer o Eryri yw’r triawd Plu, ac mae eu caneuon gwerinol llawn harmoni, ynghyd â’u defnydd o’r gitâr acwstig, awtodelyn, melodica, piano ac acordion, yn taflu golau cyfoes ar ddylanwadau traddodiadol.
| Teitl ffaith | Data ffaith |
|---|---|
| Aelodau : | Elan Mererid Rhys (Llais/Autoharp), Marged Eiry Rhys (Llais/Accordion/Piano/Melodica), Gwilym Bowen Rhys (Llais/Guitar/Bouzouki/Mandolin) |
Fel eu cyfoedion daearyddol a cherddorol, Cowbois Rhos Botwnnog a Georgia Ruth, maent yn rhoi bywyd newydd i synau sydd wedi cael eu trosglwyddo drwy’r cenedlaethau ers cyfnod y Mabinogi. Ond does dim yn eu cerddoriaeth sy’n cael ei lesteirio gan or-barchedig ofn. Mae eu caneuon gwreiddiol a'u dehongliadau o ganeuon gwerin Cymru yn cyrraedd yr uchelfannau’n ddiymdrech fel y boncathod dros fryniau Bethel, ger Caernarfon, lle y maent yn byw.
Ac unwaith eto, yr harmonïau! Pan mae Elan, Marged a Gwilym Rhys yn canu gyda’i gilydd ar eu sengl newydd rhapsodig ‘Arthur', mae’r canlyniad yn wefreiddiol.
(Gan Adam Walton, cyflwynydd BBC Radio Wales)
Clips
Galleries
Gwefannau Eraill





















