Main content

Baby Queens

Band sy’n perthyn i'r un teulu yw Baby Queens (dwy chwaer, dwy gyfnither a chwaer fabwysiedig) o Gaerdydd

Teitl ffaithData ffaith
Aelodau :
Cara Elise (Gitar/Llais), Estelle ios (Gitar), Monique Bux (Llais), Ruth Vibes (Llais/Gitar), Vanity (Llais)

Maent wedi rhyddhau dau E.P. ar label Strangetown Records Cian Ciaran (Super Furry Animals). Roedd y ddau E.P. yn wahanol i unrhyw beth a oedd wedi ymddangos yng Nghymru o'r blaen: cymysgedd o hip hop, roc, soul a reggae, a’r ‘bachau’ lleisiol mor hudolus ag unrhyw beth sydd wedi’i greu gan ddychymyg Pharrell Williams.

I lawer, gan gynnwys y tîm yn y Pencadlys, y prif drac o’u E.P. cyntaf, y gân sinematig, dreiddiol 'Red Light' (dychmygwch Portishead yn cynhyrchu T.L.C) oedd trac sain gorau Gŵyl Sŵn 2013.

“Dyma ganeuon sy'n dangos ein cariad at gerddoriaeth o bob genre. Roeddem am ddwyn ynghyd unrhyw wahaniaethau cerddorol a oedd o bosib yn bodoli. Credwn fod y gerddoriaeth yn siarad drosti’i hun, cerddoriaeth boblogaidd hygyrch a digyfaddawd”, meddai Cara.

Allwn ni ddim fod wedi ei roi yn well, Cara.

(Gan Adam Walton, cyflwynydd BBC Radio Wales) 

Gwefannau Eraill