Main content
Telyneg neu Soned: Paratoi
Mor hir y seithmis ers i’r neges ddod
am fywyd newydd, un a’m gwna’n dad-cu;
saith mis y gwau a’r gwewyr gyda’r nod
o greu blancedi pinc a ‘bwtis’ lu.
Ar wal, yn nrysfa’r lluniau du a gwyn
Mae gwyrth y prifio sy’n ddirgelwch im:
“’Co’i throed, ‘co’i chefn, a dyma’i phen fan hyn.
Ti’n gweld nhw?” Wir i Dduw, dw’ i’n ‘nabod dim!
Fel haul o’r cwmwl, daw’n ei thro i’r byd
I wisgo’r pinc a diolch gyda gwên;
Ond hwnt i’r môr disgwylir heb un crud
Ond lludw’r gad am blant na thyf yn hen,
Am boen eu geni yn y llwch wrth ffoi,
A thorri’u beddau ydyw’r paratoi.
Keri Morgan
9.5
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Mwy o glipiau 09/02/2014
![]()
Cwpled caeth yn cynnwys y gair 'pe'
Hyd: 00:04
![]()
Ateb llinell ar y pryd
Hyd: 00:04
![]()
Cân Ysgafn: Llythyr Diolch
Hyd: 01:25
![]()
Cân Ysgafn: Llythyr Diolch
Hyd: 01:12
Mwy o glipiau Y Talwrn
![]()
Limrigau Talwrn Ysgolion Gŵyl Gerallt
Hyd: 00:50
![]()
Talwrn Nadolig - tribannau
Hyd: 01:00
![]()
Talwrn Nadolig - limrigau
Hyd: 00:53
![]()
Cyfres newydd o'r Talwrn - rhif 46
Hyd: 02:29






