Use BBC.com or the new BBC App to listen to BBC podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Find out how to listen to other BBC stations

Episode details

Radio Cymru,1 min

Series2014

Cân Ysgafn: Llythyr Diolch

Y Talwrn

Available for over a year

O 6 Stryd yr Eglwys dwi i’n sgwennu hwn Dach chi’n gwybod yn iawn lle mae fanno, mwn. Rhyw air bach o ddiolch Sion Corn eto ‘leni Am ichi ddod lawr i’n tŷ ni drwy yr oerni ; A dod yr holl ffordd o wlad y North Pôl, Gobeithio wir ichi gyrraedd yn ôl. Rown i wedi gofyn am feic ac am lego Ond meddwl ydw i eich bod wedi anghofio! Mae’n debyg y cofiwch y flwyddyn nesa’ Ond mi sgwennaf eto er mwyn eich atgoffa. Dw i’n falch eich bod wedi sglaffio’r mins pei, Buodd hwnnw’n y cwpwrdd ers canol July ; A diolch am yfed y sieri i gyd Neu mi fydda Mam yn fflat ar ei hyd, A diolch hefyd i Rwdolff a’i ffrindia Am adael ychydig o dail ar ‘u hola, Bydd hwnnw yn wir yn dderbyniol iawn Er mwyn cael gwely’r riwbob yn llawn. Unwaith eto ga’ ddiolch i chi, Santa Clôs, Yn gywir fel arfer, hwyl fawr, Wili Jôs. Harri Williams 8

Programme Website
More episodes