Episode details

Available for over a year
Mor hir y seithmis ers i’r neges ddod am fywyd newydd, un a’m gwna’n dad-cu; saith mis y gwau a’r gwewyr gyda’r nod o greu blancedi pinc a ‘bwtis’ lu. Ar wal, yn nrysfa’r lluniau du a gwyn Mae gwyrth y prifio sy’n ddirgelwch im: “’Co’i throed, ‘co’i chefn, a dyma’i phen fan hyn. Ti’n gweld nhw?” Wir i Dduw, dw’ i’n ‘nabod dim! Fel haul o’r cwmwl, daw’n ei thro i’r byd I wisgo’r pinc a diolch gyda gwên; Ond hwnt i’r môr disgwylir heb un crud Ond lludw’r gad am blant na thyf yn hen, Am boen eu geni yn y llwch wrth ffoi, A thorri’u beddau ydyw’r paratoi. Keri Morgan 9.5
Programme Website