Main content
Cywydd: Ynys
Cywydd: ‘Ynys’ (Ynys Robben)
Er ei roi yng ngharchar hon,
Dau ddegawd nid oedd ddigon
I olau’i wreichion bylu.
Un tân mewn caethiwed du,
Un fflam ddifraw yng nghawell
Ei chaer, yn llosgi'n ei chell.
Ynysig weledigaeth
A nerth oedd ei goelcerth gaeth
Gwawl-dân fel goleudy oedd
I arwain cyfandiroedd,
A goleuad gwlad dan glo
Yn arwydd, hyd caed gwawrio.
Angharad Davies
9.5
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Mwy o glipiau 09/02/2014
![]()
Cwpled caeth yn cynnwys y gair 'pe'
Hyd: 00:04
![]()
Ateb llinell ar y pryd
Hyd: 00:04
![]()
Cân Ysgafn: Llythyr Diolch
Hyd: 01:25
![]()
Cân Ysgafn: Llythyr Diolch
Hyd: 01:12
Mwy o glipiau Y Talwrn
![]()
Limrigau Talwrn Ysgolion Gŵyl Gerallt
Hyd: 00:50
![]()
Talwrn Nadolig - tribannau
Hyd: 01:00
![]()
Talwrn Nadolig - limrigau
Hyd: 00:53
![]()
Cyfres newydd o'r Talwrn - rhif 46
Hyd: 02:29






