Episode details

Available for over a year
Cywydd: ‘Ynys’ (Ynys Robben) Er ei roi yng ngharchar hon, Dau ddegawd nid oedd ddigon I olau’i wreichion bylu. Un tân mewn caethiwed du, Un fflam ddifraw yng nghawell Ei chaer, yn llosgi'n ei chell. Ynysig weledigaeth A nerth oedd ei goelcerth gaeth Gwawl-dân fel goleudy oedd I arwain cyfandiroedd, A goleuad gwlad dan glo Yn arwydd, hyd caed gwawrio. Angharad Davies 9.5
Programme Website