Main content
Cywydd yn derbyn gwahoddiad.
Wrth gwrs, mond ffrindiau'n sgwrsio,
oeddem, ac y byddem, sbo,
ond yn seibiau’r bylchau bach
eginodd sgwrs amgenach:
rhyw sôn ar gyrion geiriau
a chil-wenu’n denu dau.
Nid da brys, bu petruso,
bu oediad, dwy eiliad, do,
a heno daeth ‘ni ein dau’
yn fwy na ‘ti a finnau’.
Yn dawel, rwy’n dweud ‘ia’:
gwenu wnei – rwy'n clywed ‘gwna’.
Sion Aled
9
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Mwy o glipiau 28/07/2013
![]()
Pennill Ymson wrth agor post neu ebyst.
Hyd: 00:21
![]()
Telyneg neu Soned: Plygu.
Hyd: 00:27
![]()
Telyneg neu Soned: Plygu.
Hyd: 01:04
![]()
Englyn i unrhyw gêm plant.
Hyd: 00:16
Mwy o glipiau Y Talwrn
![]()
Limrigau Talwrn Ysgolion Gŵyl Gerallt
Hyd: 00:50
![]()
Talwrn Nadolig - tribannau
Hyd: 01:00
![]()
Talwrn Nadolig - limrigau
Hyd: 00:53
![]()
Cyfres newydd o'r Talwrn - rhif 46
Hyd: 02:29







