Cân Ysgafn: Y Dafarn Ddelfrydol.
Cân Ysgafn: Y Dafarn Ddelfrydol.
Yn mynnu cadw reiat yn y bar mae llwyth o blant
a’r ffefryn ar y jiwcbocs: Greatest Hits yr ŵyl gerdd dant.
Os troi eu cefnau’n drwynsur y mae’r sipwyr, sych sidêt,
mae eraill yn dy wyneb wrthi’n slyrio: “Rwyt ti’n grêt!”
Mae ffôn y bar yn canu pan fydd pawb yn torri’u bol
am ddiod neu beint sydyn, gyda’r barman yn awol,
ac os digwyddi fentro cyfathrebu’n iaith y nen
bydd dyn sy’n byw’n dy bentre’n dweud: “They’re speaking Welsh again”.
Mae ambell efengylwr weithiau’n taro i mewn trwy’r drws,
“Mi ddeuthum i dy achub” yw ei gân, cyn ordro booze,
a brefu yn y gornel mae PAs S4C,
sy’n sôn wrth neb sy’n gwrando: “Dynion neis ’di Ant and Dec”.
Mae’r genod o Langefni sydd yn mynd a dod o’r lŵ
yn hongian dros ei gilydd ac yn gwichian “I love you”
tra bod, ar ddiwrnod rygbi, ffermwyr horni o gefn gwlad
yn canu pethau hiliol am y Saeson, ac “I’r Gad”.
A chrogi uwch y cownter y mae ffurflen noddi gam
gan rywun sydd am gerdded lot, ac arni enw’i fam.
“Mi sgwenna’ i am y dafarn hon, yr un ddelfrydol hardd”
yw sylw’r dyn yng nghanol hyn sy’n meddwl ’fod o’n fardd.
Rhys Iorwerth
9
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Mwy o glipiau 07/07/2013
![]()
Telyneg neu Soned: Cyfri.
Hyd: 00:49
![]()
Telyneg neu Soned: Cyfri.
Hyd: 00:27
![]()
Englyn i unrhyw beldroediwr enwog.
Hyd: 00:11
Mwy o glipiau Y Talwrn
![]()
Limrigau Talwrn Ysgolion Gŵyl Gerallt
Hyd: 00:50
![]()
Talwrn Nadolig - tribannau
Hyd: 01:00
![]()
Talwrn Nadolig - limrigau
Hyd: 00:53
![]()
Cyfres newydd o'r Talwrn - rhif 46
Hyd: 02:29







