Use BBC.com or the new BBC App to listen to BBC podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Find out how to listen to other BBC stations

Episode details

Radio Cymru,1 min

Series2013

Cân Ysgafn: Y Dafarn Ddelfrydol.

Y Talwrn

Available for over a year

Yn mynnu cadw reiat yn y bar mae llwyth o blant a’r ffefryn ar y jiwcbocs: Greatest Hits yr ŵyl gerdd dant. Os troi eu cefnau’n drwynsur y mae’r sipwyr, sych sidêt, mae eraill yn dy wyneb wrthi’n slyrio: “Rwyt ti’n grêt!” Mae ffôn y bar yn canu pan fydd pawb yn torri’u bol am ddiod neu beint sydyn, gyda’r barman yn awol, ac os digwyddi fentro cyfathrebu’n iaith y nen bydd dyn sy’n byw’n dy bentre’n dweud: “They’re speaking Welsh again”. Mae ambell efengylwr weithiau’n taro i mewn trwy’r drws, “Mi ddeuthum i dy achub” yw ei gân, cyn ordro booze, a brefu yn y gornel mae PAs S4C, sy’n sôn wrth neb sy’n gwrando: “Dynion neis ’di Ant and Dec”. Mae’r genod o Langefni sydd yn mynd a dod o’r lŵ yn hongian dros ei gilydd ac yn gwichian “I love you” tra bod, ar ddiwrnod rygbi, ffermwyr horni o gefn gwlad yn canu pethau hiliol am y Saeson, ac “I’r Gad”. A chrogi uwch y cownter y mae ffurflen noddi gam gan rywun sydd am gerdded lot, ac arni enw’i fam. “Mi sgwenna’ i am y dafarn hon, yr un ddelfrydol hardd” yw sylw’r dyn yng nghanol hyn sy’n meddwl ’fod o’n fardd. Rhys Iorwerth 9

Programme Website
More episodes