Main content
Cerdd Rydd: Carthu.
Rôl dioddef dos o annwyd cas
Fy mrest a lanwodd gyda chrawn,
Ac yna fe aeth pethau’n waeth
Nes methu ag anadlu’n iawn.
Ond fe aeddfedodd gyda hyn
Ac werth besychu codi wnawn
Yn gyson gyson iawn drwy’r dydd
Rhyw lympiau anferth o’r hen grawn.
Pan oeddwn mewn arosfan bws
Bum wrthi yn pesychu’n gas,
A chyn bo hir llysnafedd mawr
Oedd yno wedi’i boeri mas.
Yr oedd yn llithrig erbyn hyn
A syrthio wnes yn sydyn iawn,
A hyd nes daw Samariad da
Rwy’n dal i orwedd yn y crawn.
Dai Rees Davies
8.5
Cyfanswm Marciau: 53.5
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Mwy o glipiau 16/06/2013
Mwy o glipiau Y Talwrn
![]()
Limrigau Talwrn Ysgolion Gŵyl Gerallt
Hyd: 00:50
![]()
Talwrn Nadolig - tribannau
Hyd: 01:00
![]()
Talwrn Nadolig - limrigau
Hyd: 00:53
![]()
Cyfres newydd o'r Talwrn - rhif 46
Hyd: 02:29







