Episode details

Available for over a year
Rhai pobol sydd yn credu hen chwedlau’r oes a fu, Fel stori hen Arch Noa a’r anifeiliaid lu. Rhyw gwch bach, bregus gododd, a hynny jyst mewn pryd I achub anifeiliaid pob math o wyneb byd. Sdim dowt, whap wedi hwylio, ’rhen Noa gafodd siom: Sut yn y byd oedd carthu y cruglwyth mawr o ddom? Am y gorllewin chwythwyd, i ble roedd neb yn siŵr, A thros Amerig teithiodd (roedd prydni dan y dŵr). Whilbered fowr diwelodd, rôl carthu catsh y lloi: Fan honno gwelir heddiw y dalaith Ilinoi’. Yr arch oedd nawr yn llwythog, yn crafu ’rhyd y llawr: Dechreuad y Grand Canyon sy weld o hyd yn awr. A beth nawr am ’rhen Noa, fel eira gwyn ei ben, Ond dim o achos henaint, ond pechod gwylan wen. Medd eliffant difanners, “Tu fas mae mwy o le.” Chicago’r ddinas wyntog y gelwir nawr y lle. O achos whîl fflat whilber a choes rhaw tyllau pry, Nawr mynydd yr Ararat sy’ i weld fel tomen ddu. Arwel Jones 9 Cyfanswm Marciau: 54.5
Programme Website