Episode details

Available for over a year
Rôl dioddef dos o annwyd cas Fy mrest a lanwodd gyda chrawn, Ac yna fe aeth pethau’n waeth Nes methu ag anadlu’n iawn. Ond fe aeddfedodd gyda hyn Ac werth besychu codi wnawn Yn gyson gyson iawn drwy’r dydd Rhyw lympiau anferth o’r hen grawn. Pan oeddwn mewn arosfan bws Bum wrthi yn pesychu’n gas, A chyn bo hir llysnafedd mawr Oedd yno wedi’i boeri mas. Yr oedd yn llithrig erbyn hyn A syrthio wnes yn sydyn iawn, A hyd nes daw Samariad da Rwy’n dal i orwedd yn y crawn. Dai Rees Davies 8.5 Cyfanswm Marciau: 53.5
Programme Website