Main content

Cerdd Rydd: Diosg.

Tynnu’r tinsel.
Datod y ddrama drydan
sy’n fflachio’i olau olaf.
Gwaddol ein gwariant
dan gawod pinwydd
blêr.

Plygu’r sanau
gwag,
a’u pentyrru dros angylion
a sêr papur.
Peli sgleiniog sêls llynedd
yn swp.

Pacio’r wyl i focs llychlyd.
Ailgylchu cyfarchion
a lluniau bywydau diarth hen ffrindiau
na welaf o wyl i wyl.

Mae’r stafell yn noeth,
yn rhydd o’i duwdod ffals
a’r tinsel rhad.

Nia Môn

9

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

33 eiliad