Use BBC.com or the new BBC App to listen to BBC podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Find out how to listen to other BBC stations

Episode details

Radio Cymru,1 min

Series2013

Cân Ysgafn: Taro Bargen.

Y Talwrn

Available for over a year

Chewch chi’m deud popeth ar y Bîb, er bod croeso i chi drio. Sgwennwch gân am xxxxx neu xxxxxxxxx, ac os gwnewch, mi gewch eich sensro. Credais mai rhydd i bawb ei farn ac i bob barn ei llafar, Ond mae Anti’n gwrthod i mi ddeud mai xxxxx oedd Magi Thatshar. Dwi’n cael deud ‘gwrach’ heb drafferth mewn ambell i gyd-destun, Ond mewn brawddeg efo ‘ding’ a ‘dong’, mae’n stori arall wedyn. Weithiau, gair sy’n peri tramgwydd; weithiau gymal ar ei hyd; xxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxx, ; a’r pennill nesa’i gyd. xxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxx xxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxx xxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxx xxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxx Cha’ i ddim deud fod y Cwîn yn xxxxx a’r Diwc yn xxxxxxx xxxxxxxxxxxxxxx. Cha’ i ddim deud fod Ceri Wyn yn xxxxx xxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxx xxxxxxxxxx. Cha’ i ddim crybwyll yr AS sy’n meddwi bob prynhawn. Y bobol bia’r cyfrwng, ond ddim ond y bobol iawn. Os ydi’r Bî Bî Sî o’r farn fod pobol am ypsetio Dyma’r unig farn sy’n cyfri, ac mae’n rheidrwydd cydymffurfio. Mae adran y cyfreithwyr yn debyg iawn i ffair ‘Mond chi enwi xxxxxxx xxxxxxxx x, y boi efo’r tracsiwt aur. Cam bach o bennu ffiniau chwaeth ydi pennu iaith darlledu. Yr un giwed benderfynodd mai rhanbarth ydi Cymru. Ugain llinell ydi’r gân i fod. Heb y darnau dorrwyd allan, Mae hi’n ugain llinell ar y dot. Gewch chi’r gweddill yn y fargian. Arwel Roberts 9.5

Programme Website
More episodes