Episode details

Available for over a year
Mae gen i fwthyn yn y wlad I’w werthu’n rhad i rywun A ddaw ag arian hefo fo I daro bargen sydyn Y mae’r olygfa ger ei ddrws Mor dlws ag unrhyw ddarlun, A chau amdano fel erioed Mae coed a’r grug a’r rhedyn. Ond llwybrau serth i’r mynydd llwm Sy’n drwm dan draed y cerddwyr, A’r lonydd cul i ddyn ar ras Yn ddiflas gan fodurwyr. Ar ben-wythnosau, byddin gref I’r pentref ddaw o Saeson A’u clegar estron lle bu llu O Gymry yn gymdogion. Mae gen i fwthyn yn y wlad I’w werthu’n rhad i rywun, A - diolch byth - caf fynd o’r fro ’Rôl taro bargen sydyn. Edgar Parry Williams 8.5
Programme Website