Main content

Pwy Oedd Ffos Davies?

Y canwr gwerin Owen Shiers ar drywydd athro cefn gwlad y dylem oll fod yn ddiolchgar iddo, Ffos Davies. Folk singer, Owen Shiers tells the story of Ffos Davies.

Yn nau-ddegau'r ganrif ddiwethaf daeth prifathro newydd i Ysgol Cribyn, Dyffryn Aeron a chlywed y brodorion yn canu caneuon na chlywodd unman o'r blaen. Yn gerddor medrus aeth ati i'w casglu a'u cofnodi ar gopi-bwcs yr ysgol. Yna, un diwrnod, diflannodd y llyfrau. Gan mlynedd yn ddiweddarach mae'r cerddor gwerin Owen Shiers ar drywydd y stori ac yn awyddus i ni gyd wybod nid yn unig beth ddigwyddodd i'r llyfrau gwerthfawr ond hefyd pam y dylem oll wybod yn iawn pwy oedd John Ffos Davies.

Ar gael nawr

Ar hyn o bryd, does dim penodau ar gael

Yn fuan

Popeth i ddod (1 newydd)