Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar BBC iPlayer Radio ar hyn o bryd

Y canwr gwerin Owen Shiers a'r actores Elliw Dafydd ar drywydd cerddor ac athro cefn gwlad y dylem oll fod yn ddiolchgar iddo, John Ffos Davies.

Yn nau-ddegau’r ganrif ddiwethaf daeth prifathro newydd i Ysgol Cribyn, Dyffryn Aeron a chlywed y brodorion yn canu caneuon na chlywodd unman o’r blaen. Yn gerddor medrus aeth ati i’w casglu a’u cofnodi ar gopi-bwcs yr ysgol. Yna, un diwrnod, diflannodd y llyfrau.

Gan mlynedd yn ddiweddarach mae dau a fagwyd ar lannau afon Teifi – yr actores Elliw Dafydd a’r cerddor gwerin Owen Shiers - ar drywydd yr hanes ac yn awyddus i ni gyd wybod nid yn unig beth ddigwyddodd i’r llyfrau gwerthfawr ond hefyd pam y dylem oll wybod yn iawn pwy oedd John Ffos Davies.

Dyddiad Rhyddhau:

27 o funudau

Ar y Radio

Dydd Sul16:00

Darllediad

  • Dydd Sul16:00