Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar BBC iPlayer Radio ar hyn o bryd

Pigion o'r Ffair Aeaf

Terwyn Davies sy'n cyflwyno rhaglen o bigion o sgyrsiau o Ffair Aeaf 2025. Terwyn Davies presents highlights from the 2025 Winter Fair.

Terwyn Davies sy'n cyflwyno rhaglen o bigion o sgyrsiau o Ffair Aeaf 2025 yn Llanelwedd.

Cyfle eto i glywed lleisiau rhai o enillwyr ac ymwelwyr y digwyddiad eleni.

Rhodri Davies sy'n sgwrsio gyda Beirniad Prif Bencampwriaeth y Ceffylau, Helen Williams o Fridfa Seiont, i glywed sut brofiad oedd hi yn y Cylch Ceffylau.

Sgwrs hefyd gyda Rhys Griffith, Llysgennad Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru eleni ar ran Sir Gaernarfon, ar ôl iddo gyflwyno pentref ar gyfer y ceffylau trwm yn y Ffair Aeaf.

Linda Jones, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Cymru gydag elusen FCN Cymru sy'n trafod dathlu pen-blwydd yr elusen yn 30 oed yn y Ffair.

A Megan Williams sy'n crynhoi'r canlyniadau o gylch y gwartheg, gyda sylwebydd y cylch, Meurig James. Sgyrsiau hefyd gyda phencampwyr y sioe, Cai a Gwyn Edwards o Fetws Gwerfyl Goch, a Kathryn Jones o Frechfa, brynodd brif bencampwr y Ffair Aeaf am £27,000.

27 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 30 Tach 202515:30

Darllediadau

  • Sul 30 Tach 202507:00
  • Sul 30 Tach 202515:30