
Edrych ymlaen at y Ffair Aeaf
Terwyn Davies sy'n cyflwyno rhaglen yn edrych ymlaen at Ffair Aeaf Frenhinol Cymru 2025. Terwyn Davies presents a special programme focusing on this year's Royal Welsh Winter Fair.
Terwyn Davies sy'n cyflwyno rhaglen yn edrych ymlaen at Ffair Aeaf Frenhinol Cymru 2025.
Sgwrs gyda Llywydd y Sioe ar ran Sir Gaernarfon eleni, John Owen o'r Rowen, wrth iddo drafod ei flwyddyn yn ei rôl fel Llywydd y Gymdeithas.
Hefyd, Helen Williams o Fridfa Seiont ger Caernarfon sy'n sôn am y fraint o gael beirniadu Prif Bencampwriaeth y Ceffylau yn y Ffair Aeaf eleni.
Ieuan Edwards, y gŵr busnes llewyrchus o Ddyffryn Conwy sy'n trafod yr anrhydedd o gael agor y Ffair Aeaf gyda'i fab, Siôn.
Rhagolygon y tywydd gyda Megan Williams, a sgwrs i gloi gyda Phrif Weithredwr Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, Aled Rhys Jones i drafod be fydd yn disgwyl ymwelwyr wrth iddyn nhw ymweld â'r Ffair Aeaf eleni.
Darllediad diwethaf
Rhagor o benodau
Blaenorol
Darllediadau
- Sul 23 Tach 202507:00BBC Radio Cymru
- Sul 23 Tach 202515:30BBC Radio Cymru