Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar BBC iPlayer Radio ar hyn o bryd

Côr y Cewri, byd dawns, nofel newydd Caryl Lewis a The Corn is Green gan. Emlyn Williams/Stonehenge, novelist Caryl Lewis, dramatist Emlyn Williams, and the world of dance.

Arddangosfa fawr newydd yn yr Amgueddfa Brydeinig yn seiliedig ar Gôr y Cewri sy’n cael sylw yr adolygydd celf Elinor Gwynn.

Wrth i gynhyrchiad newydd o’r ddrama The Corn is Green agor yn y National Theatre, mae’r Athro Daniel Williams yn edrych ar fywyd a gwaith y dramodydd o Sir y Fflint, Emlyn Williams.

Mae nofel ddiweddaraf Caryl Lewis, “Drift”, ei nofel gyntaf yn Saesneg ar fin gael ei chyhoeddi ac mae Catrin Beard yn holi’r awdures am y broses o ysgrifennu yn Saesneg.

“Dream” fydd cynhyrchiad newydd gan gwmni Ballet Cymru sy’n seiliedig ar “A Midsunmmer Night’s Dream” ac mae’r ddawnswraig Caitlin Jones yn egluro’r broses o greu ballet newydd sbon tra bo’r dawnsiwr Cai Tomos yn sgwrsio am y cysylltiad sy’n bodoli rhwng dawns, symud a llês meddyliol a chorfforol.

1 awr

Darllediad diwethaf

Llun 4 Ebr 202221:00

Darllediad

  • Llun 4 Ebr 202221:00