
28/03/2022
Trafod Ymbelydredd gan Guto Dafydd, y sioeau Milky Peaks ac Anthem ac adolygiad o Ynys Alys. Book Club, and the latest theatre news with Anthem, Milky Peaks and Ynys Alys.
Yn cael sylw yn y Clwb Darllen y mis hwn mae “Ymbelydredd” gan Guto Dafydd ac mae Catrin Beard yn cael cwmni’r awdur a dau ddarllenydd brwd, sef Bethan Jones Parry a Heddyr Gregory i drafod y gyfrol.
Mae’r perfformwyr Seiriol Davies a Lisa Jên yn sgwrsio am y sioe newydd “Milky Peaks” fydd yn agor yn Theatr Clwyd, yr Wyddgrug cyn hir a Rhian Mair sy’n adolygu cynhyrchiad diweddaraf Cwmni’r Fran Wen, sef “Ynys Alys” a welwyd yn ddiweddar yn Pontio, Bangor.
Ymweliad hefyd efo ystafell ymarfer y sioe “Anthem” gan Llinos Mai, wrth i’r cast a’r criw baratoi ar gyfer eu perfformiad cyntaf yng Nghanolfan y Mileniwm, Caerdydd
Darllediad diwethaf
Rhagor o benodau
Blaenorol
Nesaf
Darllediad
- Llun 28 Maw 202221:00BBC Radio Cymru & BBC Radio Cymru 2