
09/03/2020
Golwg ar y celfyddydau yng Nghymru a thu hwnt. A look at the arts in Wales and beyond.
Ymweliad â ‘stafell ymarfer y Theatr Genedlaethol wrth i gast a chriw y ddrama newydd gan Daf James, “Tylwyth” baratoi ar gyfer eu noson agoriadol.
Y gwehyddwr Cefyn Burgess sy'n y stiwdio yn sgwrsio am ei drip ysbrydoledig diweddar i India, tra bod yr artistiaid Catrin Williams ac Iwan Gwyn Parry yn sgwrsio am ddylanwad y diweddar Peter Prendergast ac yn talu teyrnged i’r artist Karel Lek, fu farw yr wythnos diwethaf.
Hefyd, ymweliad efo Amgueddfa Werin Sain Ffagan er mwyn clywed am brosiect arbennig ar y cyd rhwng yr amgueddfa a thŷ ffasiwn fyd enwog Alexander McQueen, ac adroddiad o ddigwyddiad arbennig i nodi Diwrnod y Llyfr a gynhaliwyd yn ddiweddar yn yn Llandudno.
Darllediad diwethaf
Darllediad
- Llun 9 Maw 202018:00BBC Radio Cymru 2 & BBC Radio Cymru