Main content

16/03/2020
Golwg ar y celfyddydau yng Nghymru a thu hwnt. A look at the arts in Wales and beyond.
Dorian Morgan a Dylan Huw sy'n adolygu Tylwyth, cynhyrchiad y Theatr Genedlaethol ar y cyd efo Theatr y Sherman o ddrama newydd Dafydd James.
Mae Nia Roberts yn sgwrsio efo’r awdur Alan Llwyd am ei lyfr newydd, sy’n olrhain hanes nifer o lofruddiaethau, pob un â chysylltiad Cymreig.
Yr awdures Heiddwen Tomos sy’n sgwrsio efo Catrin Beard am ei chyfrol “O’r Cysgodion”. Am y tro cyntaf mae’r awdur arobryn wedi troi at straeon byrion ac fel mae’n egluro, mae tafodiaith gyfoethog y cymeriadau yn bwysig iddi.
“Lloches a Bywyd Newydd” ydy teitl arddangosfa gelf newydd yn oriel MOMA, Machynlleth, a’r cerddor Cerys Hafana fu yno ar ran Stiwdio.
Darllediad diwethaf
Llun 16 Maw 202018:00
BBC Radio Cymru & BBC Radio Cymru 2
Darllediad
- Llun 16 Maw 202018:00BBC Radio Cymru & BBC Radio Cymru 2