
02/03/2020
Golwg ar y celfyddydau yng Nghymru a thu hwnt. A look at the arts in Wales and beyond.
Ymysg cwmni Nia Roberts mae Comisiynydd Drama S4C, Gwenllian Gravelle, y cynhyrchydd teledu Branwen Cennard a’r adolygydd celf Sioned Williams, a hynny er mwyn trafod y defnydd a wneir o’r Gymraeg a’r Saesneg ochor yn ochor mewn dramau ar S4C. Ydy hyn yn ffordd o ledaenu’r iaith Gymreag a chyrraedd cynulleidfa newydd neu dim ond yn gwanhau’r achos am sianel uniaith Gymraeg?
Iola Baines sy'n trafod prosiect “Fframio’n Gorffennol” gan Archif Sgrin a Sain Llyfrgell Genedlaethol Cymru, prosiect sy’n dathlu treftadaeth ffilm Cymru, a chipolwg hefyd ar arddangosfa o waith yr artist Gareth Owen sydd newydd agor yng Nghanolfan y Morlan, Aberystwyth.
A gyda Diwrnod y Llyfr ar y gorwel, y cysylltiad rhwng darllen a iechyd meddwl sydd yn cael sylw Catrin Beard a’i gwesteion, sef y cyfieithydd Bethan Mair, yr awdures Angharad Tomos a Phrif Lyfrgellydd Sir Ddinbych, Bethan Hughes.
Darllediad diwethaf
Darllediad
- Llun 2 Maw 202018:00BBC Radio Cymru & BBC Radio Cymru 2