
Nadolig y Gerddorfa
Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn dathlu'r Nadolig gyda darnau gan Prokofiev ac eraill. A celebration of Christmas with the BBC National Orchestra of Wales.
Detholiad o berfformiadau o ddwy gyngerdd Nadolig gan Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC.
Thomas Søndergård, Prif Arweinydd y gerddorfa, sy'n arwain darnau gan Prokofiev, gan gynnwys cerddoriaeth o'r ffilm Is-gapten Kijé gyda'r alaw Nadoligaidd boblogaidd Troika. R'yn ni hefyd yn clywed dwy garol gan Gôr Heol y March, un o gorau plant mwyaf blaenllaw Cymru, fel rhan o'r un gyngerdd.
Mae Richard Balcombe yn ymuno â'r gerddorfa i arwain darnau byrrach gan Tchaikovsky, Korngold, Leroy Anderson a Prokofiev, yn ogystal â detholiad o gerddoriaeth y ffilm Love Actually.
Heledd Cynwal sy'n cyflwyno.
Darllediad diwethaf
Rhagor o benodau
Nesaf
Cydnabyddiaeth
| Role | Contributor |
|---|---|
| Performer | Cerddorfa Genedlaethol Gymreig |
Darllediad
- Dydd Nadolig 201612:30BBC Radio Cymru