
Cian Ciarán yn Cyflwyno: Rhys a Meinir
Cian Ciarán a Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn perfformio dehongliad Cian o chwedl Rhys a Meinir am y tro cyntaf erioed. The world première of Cian Ciarán's Rhys & Meinir.
Ar ôl bod ar y gweill ers bron i ugain mlynedd, mae Cian Ciarán o Super Furry Animals a Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn addo gwledd i'r clustiau wrth i Cian a degau o gerddorion berfformio Rhys a Meinir am y tro cyntaf erioed.
Un o hen chwedlau gwerin Cymru yw Rhys a Meinir, sef stori am gyfeillgarwch yn Nant Gwrtheyrn yn datblygu'n gariad pur cyn arwain yn y pen draw at ofid, anobaith a thorcalon.
Lisa Gwilym a Huw Stephens sydd yn Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd, i'n tywys trwy'r antur gerddorol hon, ac mae Owain Llwyd yn ymuno â'r ddau i drafod ei argraffiadau yntau cyn ac ar ôl y perfformiad byw.
Darllediad diwethaf
Rhagor o benodau
Darllediadau
- Gwen 4 Tach 201619:00BBC Radio Cymru
- Mer 9 Tach 201619:00BBC Radio Cymru