Main content

Y Penwythnos Mwyaf, Abertawe – Telerau ac Amodau’r Tocynnau

Telerau ac Amodau prynu tocynnau

Nid oes yna gyfyngiad oed ar gyfer y digwyddiad, fodd bynnag mae’n rhaid i blant 16 oed ac iau fod yng nghwmni oedolyn 18 oed neu hŷn. Nid oes rhaid i blant 2 oed ac iau gael tocyn, ond mae’n rhaid i oedolyn 18 oed neu hŷn fod yn gofalu amdanyn nhw.

Bydd enw’r person a brynodd y tocynnau wedi eu hargraffu arnyn nhw.

Mae’n bosib y bydd IDs yn cael eu gwirio wrth y fynedfa. Mathau o IDs fydd yn cael eu derbyn: pasbort dilys, trwydded yrru â llun yr UE, cerdyn adnabod â llun ac arno hologram NationalProof Of Age Standards Scheme (PASS).

Mae’r tocynnau wedi eu cyfyngu i 4 y person, y dydd, y cerdyn. Cost y tocynnau yw £18 y person (+ £4.50 o ffi archebu). Bydd ad-daliadau yn cael eu hystyried yn unig os yw’r digwyddiad yn cael ei ganslo neu ei ohirio, a bydd hyn ar gyfer y tocyn ei hun ac nid y ffi archebu.

Gallwch, os oes digon ar gael, brynu tocynnau ar gyfer ail ddiwrnod, neu ail leoliad, unwaith mae eich pryniad cyntaf wedi ei gwblhau. Gallwch hefyd brynu tocynnau ar ran rhywun arall; fodd bynnag byddwch ond yn gallu archebu hyd at 4 tocyn ar gyfer pob dydd. Bydd unrhyw archebion sy’n fwy na hyn yn cael eu canslo, ac ni fyddwn yn ad-dalu’r ffi archebu. Os ydych chi’n ceisio prynu ar ran rhywun arall tocynnau sydd wedi eu neilltuo ar gyfer trigolion yr ardal leol, efallai y byddwn ni’n gofyn am brawf o’ch cyfeiriad cyn anfon y tocynnau.

Ni fydd mwy na phum trosglwyddiad ar draws holl ddigwyddiadau Y Penwythnos Mwyaf yn cael eu derbyn ar yr un cerdyn credyd.

Bydd y tocynnau yn cael eu rhannu yn dri chategori:

  1. Categori 1 – Bydd 60% o’r tocynnau yn cael eu neilltuo ar gyfer pobl sydd yn byw yn nalgylch Cyngor Abertawe.
  2. Categori 2 – Bydd 25% o’r tocynnau yn cael eu neilltuo ar gyfer pobl sydd yn byw yn ardaloedd codau post Abertawe (SA), Caerdydd (CF), Casnewydd (NP) a Llandrindod (LD).
  3. Categori 3 – Bydd y 15% sydd ar ôl ar gael i unrhyw un eu prynu.

Er mwyn sicrhau tocynnau o gategori 1 neu 2, bydd rhaid i gwsmeriaid roi eu cod post cartref wrth brynu. Byddwn hefyd yn gofyn am gyfeiriad bilio’r cerdyn credyd sy’n cael ei ddefnyddio, a byddwn yn gwirio’r manylion ymhellach. Os nad yw’r cerdyn wedi cael ei gofrestru yn y cyfeiriad / cod post gafodd ei ddefnyddio wrth wneud cais am docynnau categori 1 neu 2, bydd rhaid i gwsmeriaid ddarparu prawf eu bod nhw’n byw yn yr ardal. Os bydd unrhyw un yn torri’r rheolau ynglŷn â’r broses ceisio am docynnau, gallwn ganslo’r tocynnau a brynwyd, heb rybudd.

Bydd categorïau 1 a 2 yn weithredol am 7 diwrnod tan ganol-dydd Ddydd Llun 19eg Chwefror. Wedi hynny bydd unrhyw docynnau sydd ar ôl ar gael i unrhyw un eu prynu.

Ticketmaster sydd yn delio â’r broses archebu ar gyfer holl ddigwyddiadau Y Penwythnos Mwyaf. Bydd tocynnau categori 1 a 2 yn cael eu postio. Os na fyddan nhw wedi cyrraedd erbyn dyddiad penodol, gallwch gysylltu â Ticketmaster ac archebu rhai yn eu lle i’w casglu ar y dydd, ond bydd rhaid i chi ddarparu prawf o’ch cyfeiriad a roddwyd wrth wneud y cais gwreiddiol – mae hyn i stopio pobl rhag defnyddio cyfeiriadau ffug wrth wneud cais. Ni allwn sicrhau tocynnau newydd, a byddan nhw’n cael eu rhoi yn ôl penderfyniad Y Penwythnos Mwyaf.

Ni fydd y cwsmeriaid sy’n llwyddo i sicrhau tocynnau categori 3 yn derbyn tocyn papur yn y post, mae’r rhain yn docynnau di-bapur, sy’n golygu y bydd rhaid i gwsmeriaid ddod â’r cerdyn gafodd ei ddefnyddio wrth archebu, ynghyd â math o ID. Bydd y cerdyn yma yn cael ei sganio ar y giatiau er mwyn dilysu mynediad. Bydd yr holl fanylion a chyfarwyddiadau ynglŷn â’r tocynnau di-bapur yn cael eu hanfon at y cyfeiriad e-bost gafodd ei roi wrth archebu.

Nid yw’r BBC, ei his-gontractwyr, is-gwmnïau ac/neu asiantaethau yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb o gwbl am unrhyw fethiant neu broblem dechnegol neu unrhyw broblem arall gydag unrhyw rwydwaith neu linell ffôn, system, gweinyddwr, darparwr neu fel arall a allai olygu bod cais am docyn yn cael ei golli neu ddim yn cael ei gofrestru neu ei nodi.

Mae’n rhaid i geiswyr ddarparu manylion llawn a chadw at ein rheolau er mwyn bod yn gymwys i gael tocynnau. Nid yw’r BBC yn derbyn cyfrifoldeb dros geisiadau sydd wedi eu gwneud drwy dwyll.

Bydd eich manylion personol yn cael eu trin yn unol â Deddf Amddiffyn Data 1998. Am fwy o fanylion, ewch i Bolisi Preifatrwydd a Chwcis y BBC (http://www.bbc.co.uk/usingthebbc/privacy/cy/).

Telerau ac Amodau defnyddio tocynnau

Festival Republic Limited (“FR”) sydd yn rheoli’r digwyddiad ar ran y BBC. Cyfeiriwn at FR isod, ble bo’n briodol.

1. Mae’r tocyn yn unol â rheolau’r BBC, a allai gael eu newid yn ôl penderfyniad y gorfforaeth.

2. Nid yw’r BBC na FR yn gyfrifol am unrhyw golled, difrod, cost na threuliau, heblaw yn achos marwolaeth neu anaf os yw o ganlyniad i unrhyw weithred esgeulus neu ddiffyg ar eu rhan nhw.

3. Y bobl sy’n mynychu’r digwyddiad sydd â’r cyfrifoldeb dros eu heiddo eu hunain. Nid yw’r BBC na FR yn gyfrifol am unrhyw golled neu ddifrod i eiddo personol sy’n cael ei gario i’r lleoliad(au).

4. Mae’r BBC yn cadw’r hawl i ganslo a/neu ddiwygio’r digwyddiad a/neu’r broses docynnau ar unrhyw gam, os yw o’r farn ei bod hi’n angenrheidiol, neu os oes amgylchiadau yn codi tu hwnt i’w rheolaeth. Maen nhw hefyd yn cadw’r hawl i addasu neu newid y rhaglen a’r artistiaid yn ddi-rybudd.

5. Os yw’r digwyddiad yn cael ei ganslo neu’r artistiaid yn cael eu newid, ni fydd y BBC na FR yn gyfrifol am dalu iawndal neu unrhyw golled ariannol a/neu dreuliau, yn cynnwys unrhyw ffioedd gweinyddol a chost teithio i/o’r lleoliad.

6. Nid fydd tocynnau yn cael eu cyfnewid nac arian yn cael ei ad-dalu oni bai fod y digwyddiad yn cael ei ganslo neu ei ohirio. Dylech wneud cais am ad-daliad gan y man prynu, dim hwyrach na 3 mis ar ôl y digwyddiad.

7. Bydd rhaid i bawb sy’n mynychu’r digwyddiad gael tocyn dilys. Mae’n rhaid i’r tocynnau gael eu cyflwyno yn llawn, gyda’r bonyn, ac heb fod wedi cael eu hymyrryd â nhw (os oes difrod ddamweiniol, cysylltwch â’r man prynu cyn y digwyddiad). Mae’r tocynnau yn parhau’n eiddo i’r BBC. Efallai y bydd IDs yn cael eu gwirio ger y fynedfa.

NODWCH: mae’n RHAID i unrhyw un sy’n iau nag 16 oed fod yng nghwmni oedolyn 18 oed neu hŷn. Efallai y bydd angen prawf o oedran ger y fynedfa (pasbort dilys, trwydded yrru â llun yr UE, cerdyn adnabod â llun ac arno hologram National Proof Of Age Standards Scheme (PASS)). Dylech gadw’r tocynnau gyda chi ar bob achlysur drwy gydol y digwyddiad.

8. Efallai y bydd y BBC neu FR yn gofyn am brawf rhesymol fod perchennog y tocyn wedi ei dderbyn yn unol â rheolau ynglŷn â darparu’r tocynnau.

9. Nid oes caniatâd i werthu, masnachu, neu gynnig gwerthu’r tocynnau; ac ni ddylan nhw gael eu defnyddio fel gwobr neu at unrhyw bwrpas hyrwyddo neu fasnachu gan unrhyw sefydliad heblaw’r BBC. Mae’r tocynnau wedi cael eu hargraffu er diogelwch ac yn meddu ar god bar unigryw. Gall gwerthu neu geisio gwerthu tocynnau olygu eu bod yn cael ei cymryd yn ôl neu eu canslo, a bydd unrhyw un sydd yn ceisio defnyddio tocynnau wedi eu hail-werthu neu eu canslo, ddim yn cael mynediad i’r lleoliad. Os bydd tocyn yn cael ei ail-werthu neu ei drosglwyddo er elw neu enillion masnachol gan unrhyw un heblaw am yr asiantiaid tocynnau sydd wedi eu henwebu, bydd yn cael ei ddiddymu ac efallai bydd y daliwr yn cael ei atal rhag cael mynediad i’r lleoliad(au), neu yn gorfod gadael. Mae gan rai lleoliadau penodol delerau ac amodau ychwanegol, ac mae’r rhain hefyd mewn lle. Ond os oes gwrthdaro, bydd y Telerau ac Amodau hyn yn cael blaenoriaeth.

10. Ni fydd modd mynd yn ôl i mewn i’r lleoliad ar ôl gadael.

11. Mae gan y BBC, neu FR ar ei rhan, yr hawl i wrthod mynediad i unrhyw un i’r lleoliad ac mae hi’n bosib y bydd unrhyw un sydd ddim yn dilyn cyfarwyddiadau stiward neu berson arall sy’n gweithio ar ran y BBC a/neu FR yn cael ei anfon oddi yno. Yn ogystal bydd unrhyw un sydd yn achosi difrod i’r lleoliad, isadeiledd y lleoliad, yn achosi niwed i unrhyw berson arall ar y safle, yn defnyddio geiriau neu ystumiau bygythiol, treisgar neu sarhaus, yn ymddwyn mewn modd anghyfreithlon, gwrth-gymdeithasol neu ymosodol, yn meddu ar eitemau neu sylweddau anghyfreithlon neu waharddedig, yn ymddangos o dan effaith alcohol neu gyffuriau, neu yn torri ar yr amodau hyn yn cael ei hel oddi yno ac efallai yn cael ei riportio i’r heddlu.

12. Bydd y BBC, neu FR ar ei rhan, yn defnyddio’i hawl i chwilio pobl a’u heiddo personol, drwy chwilio mewn bagiau ac, o bosib, drwy ddefnyddio darganfyddwyr metel corff cyfan neu ffyn darganfod metel. Byddan nhw’n gwrthod mynediad i, neu yn hel o’r lleoliad, unrhyw berson sydd yn gwrthod cael ei chwilio gan staff diogelwch neu berson arall sy’n ymddwyn ar eu rhan.

13. Ynghyd ag eitemau sydd wedi eu crybwyll eisoes yn y ddogfen telerau ac amodau yma, nid ydyn ni’n caniatáu’r eitemau isod o fewn y lleoliad – baneri, cadeiriau (ddim yn berthnasol i gwsmeriaid â mynediad wedi ei gofrestru), cyllyll, tân gwyllt, tuniau mwg, lampau awyr neu Chineaidd, ymbarelau golff (neu ymbarelau mawr eraill – 1 metr neu fwy), tuniau nwy (yn cynnwys erosol dros 250ml ac ocsid nitraidd), megaffon, cyrn aer, systemau sain, caniau chwistrellu, balŵns, ffaglau, arfau, eitemau peryglus, dyfeisiau a beiros laser, gwydr (yn cynnwys persawr a phersawr ôl-eillio), caniau, polion, ffyn-hunlun, ffaglau chwythu, eitemau heb eu hawdurdodi i’w gwerthu, yn cynnwys unrhyw nwyddau yn defnyddio logos y digwyddiad heb eu hawdurdodi, ac unrhyw eitem a allai gael ei ddefnyddio fel arf a/neu beryglu diogelwch y cyhoedd, yn cynnwys tabardiau neu ddillad uwch-weledol (high-vis) answyddogol.

14. Nid chaniateir tanau unrhyw le ar y safle. Bydd unrhyw un sydd yn ymwneud â dechrau tân neu daflu unrhywbeth ar dân yn cael eu hel o’r safle.

15. Gallwch ddod â bwyd a diodydd meddal i’r digwyddiad ar eich cyfer chi, os yw’r diod meddal mewn cynhwysydd plastig neu bapur, heb ei agor ac wedi ei selio, a ddim yn dal mwy na 500ml – mae hyn wedi ei gyfyngu i un y person. Ni chaniateir gwydr neu ganiau. Ni chaniateir alcohol.

16. Peidiwch â dod â chyffuriau, yn cynnwys cyffuriau cyfreithlon (legal highs – mae hyn yn cynnwys ocsid nitraidd) i’r digwyddiad. Byddwch chi’n cael eich gwrthod/hel o’r digwyddiad ac efallai yn cael eich rhoi yn nwylo’r heddlu os fydd cyffuriau yn cael eu canfod yn eich meddiant. Efallai y bydd cŵn synhwyro yn cael eu defnyddio.

17. Bydd alcohol ar werth yn y lleoliad; fodd bynnag, bydd y bariau yno yn dilyn polisi ‘Herio 25’. Os yw staff y bar yn teimlo eich bod chi’n edrych yn iau na 25, byddan nhw’n gofyn i chi ddarparu ID â llun i brofi eich bod chi dros 18 oed (Gweler pwynt 7 ar gyfer y rhestr o IDs derbyniol). Bydd staff diogelwch hefyd yn gweithio o amgylch y lleoliad.

18. Nid yw ffotograffiaeth proffesiynol heb awdurdod neu ddefnydd o offer recordio proffesiynol yn cael ei ganiatáu, a bydd lensys closio (zoom), neu ddyfeisiau clyweled neu sinematograffi yn cael dod i mewn i’r lleoliad.

19. Bydd Y Penwythnos Mwyaf yn cael ei ffilmio ar gyfer darllediadau byw ac wedi eu recordio. Mae mynychwyr yn rhoi caniatâd i’r BBC ddefnyddio eu tebygrwydd gwirioneddol neu efelychol mewn cysylltiad â chynhyrchu, arddangos, hysbysebu neu ddefnydd o unrhyw ffilm, fideo a/neu recordiad sain o’r digwyddiad a/neu unrhyw elfen ohono mewn unrhyw/pob cyfrwng ar draws y byd. Maen nhw hefyd yn cytuno i gael eu ffilmio gan heddlu neu staff diogelwch at bwrpas sicrhau diogelwch cwsmeriaid ac atal trosedd.

20. Mae hi’n anghyfreithlon i ysmygu mewn ardaloedd caeëdig, gan gynnwys pebyll. Dilynwch gyfarwyddiadau’r arwyddion o amgylch y lleoliad.

21. Nid yw anifeiliaid yn cael eu caniatáu, heblaw am gŵn tywys ar gyfer mynychwyr dall a/neu fyddar.

22. Defnyddiwch y biniau a’r mannau ailgylchu sydd wedi eu darparu ar ac oddi ar y safle.

23. Os oes gennych chi gwyn ynglŷn â’r digwyddiad (gan gynnwys, ond nid yn gyfyngedig i, eich gallu i weld y digwyddiad), cyn neu yn ystod y digwyddiad, cysylltwch â ni neu stiward cyn gynted â phosib, oherwydd nid yw hi’n hawdd i ddelio â chwynion wedi’r digwyddiad.

24. Mae’r digwyddiad y tu allan. Rydyn ni’n eich cynghori’n gryf i ddod â dillad ac esgidiau addas i’ch amddiffyn rhag tywydd gwael.

25. RHYBUDDION – Gall gwrando ar sŵn uchel am gyfnod hir niweidio eich clyw. Gallai effeithiau mwg, goleuadau strôb, laser a sŵn uchel gael eu defnyddio yn y digwyddiad yma.

26 BAGIAU – Nid ydyn ni’n caniatáu bagiau mawr yn yr ŵyl. Nid oes ystafell cotiau. Gallwch ddod â bagiau bach i mewn i’r digwyddiad, os ydyn nhw llai na Ll21cm x H30cm x D8cm (maint darn o bapur A4).

Nid yw eich hawliau cyfreithiol yn cael eu heffeithio gan y telerau ac amodau yma.