Main content

Beth i ddod gyda chi/Beth sydd wedi eu gwahardd - Abertawe

Bydd mesurau diogelwch llym mewn lle ym mhob digwyddiad Y Penwythnos Mwyaf, a gall hyn gynnwys ffyn darganfod metel a chŵn synhwyro.

Nid ydyn ni’n caniatáu bagiau mawr yn yr ŵyl. Nid oes ystafell cotiau. Gallwch ddod ag un bag bach yr un i mewn i’r digwyddiad, os ydyn nhw llai na Ll21cm x U30cm x D8cm (maint darn o bapur A4). Rydyn ni’n gwerthfawrogi eich cydweithrediad ac amynedd wrth gyrraedd y digwyddiad.

Beth i ddod gyda chi

  • Eich tocyn
  • Dillad sy’n addas ar gyfer unrhyw dywydd – het, sbectol haul, cotiau glaw, dillad cynnes ayyb. Cofiwch edrych ar y rhagolygon tywydd cyn i chi ddod i’r digwyddiad!
  • Eli haul
  • Digon o arian parod a / neu eich cerdyn banc – mae gennym ni hefyd beiriannau arian ar y safle a fydd yn derbyn pob math o gerdyn debyd o’r DU. Bydd rhai o’r peiriannau hefyd yn derbyn rhai cardiau credyd rhyngwladol. Nodwch, bydd ffi o £2.50 yn cael ei chodi i ddefnyddio’r peiriannau arian ar y safle
  • Dewch ag ID os ydych chi’n ddigon ffodus i edrych yn iau na 18 oed er mwyn cael dod i mewn i’r digwyddiad. Byddwch hefyd angen ID er mwyn prynu alcohol, os ydych chi’n edrych yn 25 oed neu iau. Mathau o IDs fydd yn cael eu derbyn: pasbort dilys, trwydded yrru â llun yr UE, cerdyn adnabod â llun ac arno hologram NationalProof Of Age Standards Scheme (PASS).
  • Meddyginiaeth – os ydych chi angen dod â meddyginiaeth, rydyn ni’n argymell dod â llythyr doctor neu bresgripsiwn ar ei gyfer gyda chi. Gofynnwn am eich cydweithrediad os ydyn ni’n cwestiynu beth rydych chi’n dod gyda chi gan ei bod hi’n bwysig atal pobl rhag dod â chyffuriau i’r digwyddiad
  • Os oes gennych chi unrhyw alergeddau, cofiwch ddweud wrth eich ffrindiau beth ydyn nhw.

Eitemau wedi eu gwahardd

Nid ydyn ni’n caniatáu’r eitemau isod o fewn y lleoliad:

  • Alcohol
  • Anifeiliaid (heblaw am gŵn cymorth)
  • Arfau
  • Bagiau / bocsys oeri (mawr)
  • Balŵns
  • Baneri ar ffyn
  • Barbeciws
  • Beiciau, sgwteri, esgidiau rholio
  • Beiros laser
  • Bomiau / tuniau mwg
  • Bwyd (caniateir ychydig bach at ddefnydd personol)
  • Cadeiriau, stolion, cadeiriau llawr, ffyn saethu
  • Caniau
  • Caniau chwistrellu
  • Cyffuriau cyfreithlon (legal highs)
  • Cyllyll poced
  • Cyrn aer
  • Diodydd (caniateir poteli papur / plastig 500ml neu lai, heb eu hagor, i bob person)
  • Drôns
  • Tuniau nwy
  • Erosols dros 250ml
  • Ffaglau / ffaglau argyfwng / ffaglau mwg
  • Ffaglau chwythu
  • Gasebos
  • Gwydr
  • Lampau Chineaidd
  • Megaffon
  • Ocsid nitraidd / cyffuriau llysieuol (herbal highs)
  • Offer coginio
  • Offer recordio sain a fideo (proffesiynol)
  • Sigarennau (mwy nag at defnydd personol)
  • Sylweddau anghyfreithlon (cyffuriau)
  • Systemau sain
  • Tân gwyllt / pyrotechneg
  • Ymbarelau – mawr (caniateir ymbarelau bach / plygu sy’n llai nag 1m)

Defnyddio cyffuriau a chyffuriau cyfreithlon (legal highs)

Peidiwch â dod â chyffuriau anghyfreithlon na sylweddau ‘cyfreithlon’/psychoactive i’r digwyddiad yma. Mae cyffuriau cyfreithlon yn wenwynig, hyd yn oed y rhai sydd wedi eu gwneud â phlanhigion. Dydyn nhw ddim wedi cael eu profi ar bobl ac maen nhw yn gallu lladd. Os fydd y sylweddau yma yn cael eu canfod yn eich meddiant, gallwch gael eich hel o’r digwyddiad a’ch rhoi yn nwylo’r heddlu. Mae defnyddio tuniau nwy neu ocsid nitraidd (NOs) wedi ei wahardd ar draws holl safle’r digwyddiad. Os fydd gennych chi beth yn eich meddiant, neu yn ei ddefnyddio, byddwch yn cael eich hel o’r safle yn syth.