Main content

Hanes Caneuon Rhaglen 1

(nodiadau yn addasiad o wybodaeth a geir yn "Canu’r Bobol" gan Huw Williams)

Andrew Matthews - Enillydd y Rhuban Glas yn Eisteddfod Sir Gâr

Yr Ornest

Cân i denor neu fariton gan William Davies (gweler dan "Cyfansoddwyr Yr Hen Ganiadau"), ar eiriau gan Edward Edwards ("Morwyllt", 1839-1921), bardd gwlad o Langefni. Ar ôl i bobl fel Robert Rees (Eos Morlais) a Lucas Williams anfarwoli’r gân, daeth yn boblogaidd iawn erbyn ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Gwerthwyd miloedd o gopïau ohoni, ac aeth i nifer o argraffiadau.

Y Marchog

"Cân Wladgarol" fel y disgrifir hi ar dudalen flaen y copi. Mae’r geiriau gan y Parchedig John Lodwick, a’r gerddoriaeth gan Joseph Parry (gweler dan "Cyfansoddwyr Yr Hen Ganiadau"). Cyhoddwyd yn gyntaf gan D.M. Parry, Penarth, ac yna gan D.J. Snell, Abertawe.

Cymru

Cân i fariton gan R.S. Hughes (gweler dan "Cyfansoddwyr Yr Hen Ganiadau"), a’r geiriau gan W.J. Parry, Bethesda.

Pwy fel Fy Mam

Cân i soprano neu denor gan T. Amos Jones, a’r geiriau gan Ieuan Glan Geirionydd. Cyhoeddwyd yn y Rhyl gan James Dowell a’r Fab yn 1895.

Baner Ein Gwlad

Unawd i denor neu fariton gan Joseph Parry (gweler dan "Cyfansoddwyr Yr Hen Ganiadau"), a’r geiriau gan Mynyddog. Yn ôl Daniel Protheroe, roedd Joseph Parry yn llygad-dyst i’r Rhyfel Cartref yn America, ac mae’r gân "Baner Ein Gwlad" yn addasiad Cymraeg gan Mynyddog o "The American Star" a gyfansoddwyd gan Joseph Parry tra yn America.

Ynys y Plant

Unawd i soprano gan E.T. Davies (gweler dan "Cyfansoddwyr Yr Hen Ganiadau") ar eiriau gan Elfed. Gwobrwywd y gân yn Eisteddfod Genedlaethol Llundain, 1909, a’i chyhoeddi gan Hughes a’i Fab yn 1910. Fe’i cyflwynywd i’r soprano Amy Evans a oedd yn adnabyddus fel cantores boblogaidd yn ei dydd.

Tyrd Oleu Mwyn

Cân gysegredig gan D. Pughe Evans (gweler dan "Cyfansoddwyr Yr Hen Ganiadau"), gyda geiriau Saesneg gan Henry Newman "Lead kindly light", a chyfieithiad Cymraeg gan Elfed. Yn ôl Idris Lewis, Tyrd Oleu mwyn oedd cân orau D. Pughe Evans a’r ‘gân gysegredig orau a ysgrifennwyd erioed gan gyfansoddwr o Gymro’.

Cytgan Y Pererinion

Teitl llawn y cytgan ar gyfer lleisiau meibion gan Joseph Parry yw "Cytgan Y Pererinion Ar Eu Ffordd Tua’r Groes". Cyfansoddwyd yn ystod ei gyfnod yn Abertawe (1881-88) ar eiriau gan David Adams. Dewiswyd yn un o ddarnau prawf i gorau meibion yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe 1891, pan oedd 10 o gorau yn cystadlu, a pharhaodd y gystadleuaeth am 5 awr! Y côr buddugol oedd Côr Pont-y-cymer, gyda Gwilym Thomas fel unawdydd. Yn ei gofiant, dywed Joseph Parry taw llais y datganwr hwn oedd ganddo yn ei feddwl pan luniodd yr unawd yn y cytgan.