Main content

Hanes Caneuon Rhaglen 2

(nodiadau yn addasiad o wybodaeth a geir yn "Canu’r Bobol" gan Huw Williams)

Llam y Cariadau

Cân i soprano neu denor (er y cysylltir y gân â soprano yn bennaf), gan R.S. Hughes (gweler dan ‘Cyfansoddwyr Yr Hen Ganiadau’ isod) a’r geiriau gan Edward Jenkins (ap Ceredig). Mae’r gân yn seiliedig ar ddigwyddiad hanesyddol yn “Lover’s Leap” ger Llandrindod.

Yr Hen Gerddor

Cân i denor gan D. Pughe Evans (gweler dan ‘Cyfansoddwyr Yr Hen Ganiadau’ isod) ar eiriau gan y Parchedig B. Thomas (Myfyr Emlyn). Hon oedd cân gyntaf y cyfansoddwr, ac fe’i lluniwyd er cof am Robert Rees (Eos Morlais), y tenor enwog, ac R.S. Hughes, y cyfansoddwr.

Mewn nodyn yn egluro’r rhan o’r gerdd sy’n cyfeirio at ‘enw Iesu Grist’, dywed D. Pughe Evans “Eos Morlais said a few days before his death that he had hitherto sung to men, but if spared would sing more to his God”. Ac mewn nodyn uwchben y geiriau yn Barddoniaeth Myfyr Emlyn dywedir: ‘Dywedai D. Pughe Evans ychydig cyn marw, “I have heard The old Minstrel many times this season. It is my best song” ’.

Arafa Don

Cân i denor gan R.S. Hughes a’r geiriau gan Tudno. Roedd y gân yn fuddugol fel cyfansoddiad yn Eisteddfod Abertawe 1880.

Brad Dynrafon

Cân i fariton gan D. Pughe Evans, gyda’r geiriau gan Watcyn Wyn. Dywed D Emlyn Evans mewn adolygiad yn Y Cerddor, Chwefror 1895 fod y chwedl a ddefnyddiwyd fel sail i’r farddoniaeth ‘yn hysbys i drigolion glannau’r Ogwy, sef yr afon agosaf at blasdy a chastell Dindryfan’.

Y Delyn Aur

Trefniant o’r emyn-dôn ‘ Y Delyn Aur’ gan D. Pughe Evans ar gyfer lleisiau TTBB ar eiriau Williams Pantycelyn ‘Dechrau canu, dechrau canmol’. Hawlir y dôn i Dafydd J. James, o Ganan ger Crosswel, Brynberian, Sir Benfro yn wreiddiol, er y cyfeirir ati fel Alaw Gymreig yn y casgliadau enwadol.