Main content

GORWELION 2019 - RHOWCH GYNNIG ARNI

Mae’r chwilio am 12 band ac artist newydd Gorwelion yn cychwyn yma!

Bydd panel o gynhyrchwyr o BBC Radio Cymru, BBC Radio Wales a Chyngor Celfyddydau Cymru, ynghyd ag un o gynhyrchwyr cynllun Gorwelion 12, yn dethol 12 o fandiau / artistiaid i fod y rhai sydd fwyaf tebygol o wneud cynnydd arwyddocaol yn eu gyrfaoedd dros y flwyddyn dan sylw. Y bandiau / artistiaid hyn fydd yn ffurfio Gorwelion 12.

Bydd bandiau / artistiaid Gorwelion Cymru yn cael cyfle i berfformio mewn digwyddiadau ar hyd a lled Cymru ac ar wasanaethau radio cenedlaethol BBC Cymru - BBC Radio Cymru a / neu BBC Radio Wales. Byddant hefyd yn elwa ar raglen gefnogaeth a fydd yn eu helpu i ddatblygu eu gyrfaoedd cerddorol.

Prif fuddiannau cynllun Gorwelion 12 yw:

  • sylw ar holl wasanaethau BBC Cymru

  • cyswllt uniongyrchol ag un o gynhyrchwyr y BBC sy’n goruchwylio’r prosiect

  • sesiwn recordio yn BBC

  • pecynnau hyrwyddo, gan gynnwys photoshoot a fideo proffesiynol

  • mentora cerddorol, ar ffurf labordy ddatblygu sy’n rhan o’r diwydiant cerddorol

  • cyfleoedd i berfformio mewn rhaglen o wyliau / digwyddiadau yng Nghymru, yn ogystal â digwyddiadau BBC Cymru gydol y flwyddyn. Gallai’r rhain gael eu darlledu (yn amodol ar ddisgresiwn golygyddol y BBC)

Pwy sy’n gallu ymgeisio ar gyfer Gorwelion 12?

Bydd Gorwelion yn agored i fandiau / artistiaid yng Nghymru sy’n cyfansoddi, cynhyrchu a pherfformio cerddoriaeth boblogaidd gyfoes wreiddiol. Mae’r genres cyfoes hyn yn cynnwys indie, electroneg, trefol, pop, roc, byd, gwerin ac unrhyw genres cerddorol cyfoes sy’n datblygu.

Sut mae ymgeisio ar gyfer Gorwelion 12?

Gall bandiau / artistiaid ymgeisio drwy llenwi ffurflen gais yma. Danfonwch ffurflen gais at [email protected]

Sut mae bandiau / artistiaid Gorwelion 12 yn cael eu dethol?

Bydd Ffurflenni Cais cyflawn yn cael eu hystyried gan banel dethol o gynhyrchwyr o BBC Radio Cymru, BBC Radio Wales a Chyngor Celfyddydau Cymru, ynghyd ag un o gynhyrchwyr cynllun Gorwelion 12.

Pwy sy’n gymwys ar gyfer Gorwelion 12?

Rhaid i fandiau cymwys fod â chanran arwyddocaol o’r grŵp yn byw yng Nghymru (er enghraifft, un o bedwar, dau o bump, a thri o chwe aelod mewn grŵp). Rhaid i artistiaid unigol fyw yng Nghymru. Rhaid i fandiau / artistiaid allu profi eu bod dros 16 oed ar y dyddiad ymgeisio. Rhaid i fandiau / artistiaid fod yn cyfansoddi, recordio a pherfformio eu deunydd gwreiddiol eu hunain. Rhaid i fandiau / artistiaid hefyd gydymffurfio â’r telerau ac amodau.

Dyddiad cyntaf ar gyfer cyflwyno ceisiadau ar gyfer cynllun Gorwelion 12 2019 yw Dydd Mercher 3 Ebrill 2019.

Y dyddiad olaf ar gyfer derbyn ceisiadau yw ganol nos, nos Mai 1 2019.

Noder bod y dyddiad cau yn derfynol, ac ni allwn dderbyn unrhyw geisiadau wedi’r amser/dyddiad cau hwn.

Rydym yn bwriadu cyhoeddi enwau bandiau / artistiaid llwyddiannus Gorwelion Mis Mai 2019 ymlaen ar BBC Radio Cymru a BBC Radio Wales ac arlein ar www.bbc.co.uk/gorwelion a thrwy drydar @horizonscymru.

Telerau ac Amodau / Gwyboadaeth Personol

Nia Wyn - Do You Love Enough live at The Great Escape Festival 2018

Nia Wyn - Do You Love Enough live at The Great Escape Festival 2018

NoGood Boyo - Bwmba - Live from Festival Number 6

NoGood Boyo - Bwmba - Live from Festival Number 6

HIMALAYAS - Thank God I'm Not You - Live from TramShed Cardiff

HIMALAYAS - Thank God I'm Not You - Live from TramShed Cardiff

Adwaith - Wine Time - Live From Rockfield

Adwaith - Wine Time - Live From Rockfield

Ffurflen Yma

Horizons 12 - 2018/19