Gorwelion 12: Telerau ac Amodau
Dyma’r telerau ac amodau ar gyfer bandiau a/neu artistiaid sy’n dymuno cael eu hystyried ar gyfer cynllun Gorwelion/Horizons (“y Cynllun”) – cynllun cerddoriaeth BBC Cymru Wales a Chyngor Celfyddydau Cymru. Rhaid i BBC Cymru Wales dderbyn ceisiadau ar gyfer y Cynllun erbyn hanner nos, 1 Mai 2019 fan bellaf.
- Rhaid i’r band a/neu’r artistiaid (“yr Ymgeiswyr”) sy’n cyflwyno’r Ffurflen Gais Gorwelion/Horizons (“y Ffurflen Gais”) gadarnhau bod yr wybodaeth yn y Ffurflen Gais yn wir ac yn gywir. Rhai i’r Ffurflen Gais ar gyfer bandiau gael ei llenwi gan un aelod o'r band, a bod y person hwnnw, ar ôl cael caniatâd gweddill y band i wneud y cais, yn cytuno bod yr wybodaeth ar y Ffurflen Gais yn wir ac yn gywir ar gyfer y band i gyd a bod holl aelodau'r band yn bodloni’r telerau ac amodau ar gyfer dod yn rhan o'r Cynllun.
- Wrth gyflwyno'r Ffurflen Gais, mae'r Ymgeisydd yn cadarnhau ei fod yn deall natur a chynnwys y Cynllun.
- Mae’r Ymgeiswyr yn cadarnhau nad ydynt o dan 16 oed adeg dod yn rhan o'r cynllun ac os yw'r Ffurflen Gais gan fand, eu bod yn cadarnhau nad oes yr un aelod o'r band o dan 16 oed.
- Rhaid i artistiaid unigol fod yn byw yng Nghymru ac wedi bod â chyfeiriad dilys yng Nghymru am 6 mis o leiaf cyn y dyddiad y byddant yn dod yn rhan o’r cynllun. Rhaid i fandiau ddangos bod nifer sylweddol o aelodau’r band yn byw yng Nghymru ac wedi bod â chyfeiriad dilys yng Nghymru am 6 mis o leiaf cyn y dyddiad y byddant yn dod yn rhan o'r cynllun. Bydd myfyrwyr sydd wedi’u lleoli mewn cyfeiriad dros dro, ond sy’n gysylltiedig â chyfeiriad parhaol yng Nghymru, yn dal i gael eu hystyried yn gymwys, ond mae’n rhaid iddynt brofi eu statws fel myfyriwr.
- Efallai y bydd yn rhaid i'r Ymgeiswyr ddarparu prawf o bwy ydyn nhw, eu hoedran a’u cymhwysedd.
- Ni fydd ymgeiswyr yn gymwys i ddod yn rhan o’r Cynllun os ydynt ynghlwm wrth label recordio mawr cyn dyddiad eu mynediad i’r Cynllun (at y diben hwn, bydd hyn yn golygu unrhyw label sy’n perthyn i unrhyw rai o’r cwmnïau recordio mwy, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i: Sony Music Entertainment, Warner Music Group, Universal Music Group a’u his-gwmnïau).
- Bydd ymgeiswyr sydd wedi rhyddhau eu deunydd eu hunain ar record fasnachol a/ neu mewn fformat i'w lawrlwytho a/neu ar label recordio annibynnol bychan, yn gymwys i gymryd rhan yn y Cynllun ar yr amod nad oes unrhyw gyfyngiadau wedi’u gosod arnynt neu eu cerddoriaeth gan y label recordio annibynnol neu unrhyw drydydd parti arall sy’n golygu na allant gydymffurfio â’r telerau a’r amodau ar gyfer bod yn rhan o’r Cynllun.
- Mae’r Ymgeiswyr yn deall ac yn cydnabod bod yn rhaid i’w perfformiadau a/neu eu cyfraniadau ar gyfer y Cynllun gydymffurfio â Chanllawiau Golygyddol y BBC <http://www.bbc.co.uk/editorialguidelines/guidelines> a hefyd bod yn rhaid i’w perfformiadau a/neu eu cyfraniadau beidio â chynnwys dim sy’n torri hawlfraint neu y gellid disgwyl iddo ddwyn anfri ar y BBC neu sy’n ddifenwol.
- Drwy lenwi a chyflwyno’r Ffurflen Gais, mae’r Ymgeisydd yn cytuno â Pholisi Preifatrwydd a Pholisi Cwcis y BBC.
- Bydd y Ffurflenni Cais yn cael eu hasesu gan banel o staff dethol o BBC Cymru Wales a Chyngor Celfyddydau Cymru a gwahoddedigion o blith arbenigwyr yn y diwydiant. Bydd eu penderfyniad hwy ynglŷn â phwy sy’n cael cynnig lle ar y Cynllun yn derfynol.
- Ni fydd aelodau staff a pherthnasau agos staff BBC Cymru Wales a Chyngor Celfyddydau Cymru yn gymwys ar gyfer y Cynllun.
- Bydd ymgeiswyr sy’n cael eu dewis i ymuno â’r Cynllun yn aseinio’r holl hawlfraint yn eu perfformiadau a/neu yn y cyfraniadau a roddant o dan y Cynllun. Byddant hefyd yn rhoi pob cydsyniad a all fod yn ofynnol dan Ddeddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phatentau'r BBC 1998 (fel y’i diwygiwyd) ac yn rhoi i'r BBC unrhyw a phob hawl sy’n ofynnol i alluogi’r BBC i wneud y defnydd llawnaf o’u recordiadau heb gyfyngiad mewn unrhyw gyfrwng ar draws y byd am oes y cyfryw hawliau.
- Bydd yr hawlfraint sylfaenol ym mherfformiadau a/neu gyfraniad(au)’r Ymgeisydd a roddir o dan y Cynllun (e.e. cyfansoddiad cerdd, geiriau etc.) yn aros gyda deiliad yr hawliau ac mae’r BBC yn cydnabod nad yw caniatâd wedi’i gyfyngu i'r BBC, fel y gall bandiau/artistiaid barhau i ddefnyddio’r deunydd mewn unrhyw ffordd gan gynnwys caniatáu i eraill ei ddefnyddio.
- Mae’r Ymgeiswyr yn cytuno y caiff y BBC grybwyll, arddangos a defnyddio’u henw a/neu eu delwedd a/neu debygrwydd mewn cysylltiad â’r Cynllun ac yn cydnabod y bydd hyn yn digwydd yn gyfan gwbl yn unol â disgresiwn golygyddol y BBC.
- Disgwylir i Ymgeiswyr sy’n gwneud cais i ymuno â'r Cynllun lofnodi cytundeb yn dweud eu bod wedi deall ac yn cytuno â'r telerau ac amodau hyn, ac y byddant hefyd yn cyfrannu at weithgarwch cyhoeddusrwydd gan gynnwys gweithio gydag adran farchnata BBC Cymru Wales.
- Mae’r BBC yn cadw’r hawl i: ganslo, newid neu addasu telerau ac amodau'r Cynllun ar unrhyw adeg, at ddibenion golygyddol neu os oes unrhyw amodau y tu hwnt i’w rheolaeth; gwahardd unrhyw fand neu artist ar unrhyw adeg o'r Cynllun os byddant wedi torri’r telerau ac amodau hyn a/neu yn ymddwyn yn dramgwyddus a/neu yn dwyn anfri ar y BBC.
- Ni fydd y BBC yn atebol i unrhyw Ymgeiswyr nac i’w cynrychiolydd cyfreithiol am unrhyw golled neu ddifrod neu anaf a achosir i'r Ymgeisydd neu ei eiddo mewn cysylltiad â bod yn rhan o'r Cynllun oni bai fod hynny wedi’i achosi drwy esgeulustod y BBC ac yn adferadwy ar y sail honno.
- Mae darlledwyr y DU, gan gynnwys BBC, yn ymchwilio i amrywiaeth yn eu rhaglenni. Mae hyn yn cynnwys nodweddion amrywiaeth y bydd Ymgeiswyr llwyddiannus i'r Cynllun yn dewis dweud wrth y darlledwyr amdanynt a hefyd beth o bosib yw canfyddiad y gynulleidfa o amrywiaeth ar raglenni’r BBC. Mae Ymgeiswyr llwyddiannus yn deall y bydd y BBC yn cofnodi cyfeiriadau e-bost yr Ymgeiswyr (neu gyfeiriad e-bost rhieni/gwarcheidwad y rheini o dan 18 oed) ar system o'r enw Silvermouse ac y bydd Ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu gwahodd i ddarparu (a’u dewis hwy fydd gwneud) nodweddion amrywiaeth - rhywedd, ethnigrwydd, anabledd, oed ac, os ydynt dros 13 oed, hunaniaeth o ran rhywedd a chyfeiriadedd rhywiol. Bydd aelod o dîm cynhyrchu'r Cynllun hefyd yn cofnodi data canfyddedig (perceived data) ar gyfer pawb y maent yn eu gweld ar y sgrin/ar yr awyr (fel y bo’n berthnasol) gan ddefnyddio’r un nodweddion.
- Mae’r Telerau a’r Amodau hyn yn cael eu rheoli gan gyfreithiau Cymru a Lloegr.
Gorwelion 12: Eiddo Deallusol
Drwy gyflwyno unrhyw ddeunydd i’r BBC (gan gynnwys unrhyw destun ysgrifenedig, ffotograffau, graffeg, fideos, neu ddeunydd clywedol), mae bandiau / artistiaid Gorwelion 12 yn cytuno i roi i’r BBC, yn rhad ac am ddim, ganiatâd i ddefnyddio’r deunydd fel y myn (gan gynnwys ei newid a’i addasu am resymau gweithredol a golygyddol) ar unrhyw wasanaeth BBC mewn unrhyw gyfrwng ledled y byd (gan gynnwys ar safle’r BBC a ddefnyddir gan ddefnyddwyr rhyngwladol). Dan rai amgylchiadau penodol, gall y BBC hefyd rhannu’r deunydd gyda thrydydd partïon y mae yn ymddiried ynddynt, ac yn benodol partner y BBC, Cyngor Celfyddydau Cymru.
Bydd yr hawlfraint sylfaenol yng nghyfraniad(au) bandiau / artistiaid Gorwelion 12 yn parhau yn eiddo deilydd yr hawliau ac mae’r BBC yn cydnabod bod y caniatâd a roddir i’r BBC yn an-ecsgliwsif, ac felly y gall y bandiau / artistiaid barhau i ddefnyddio’r deunydd mewn unrhyw ffordd, gan gynnwys caniatáu i eraill ei ddefnyddio. Er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth, bydd y BBC yn berchen ar a / neu yn cadw’r hawlfraint ar unrhyw ddeunydd ysgrifenedig, ffotograffau, cynnwys clywedol, cynnwys clyweledol, rhaglenni a deunydd darlledu a gynhyrchwyd gan y BBC.
Er mwyn i’r BBC allu defnyddio unrhyw ddeunydd a ddarparwyd gan fandiau / artistiaid Gorwelion 12 a / neu gynnwys a gynhyrchwyd gan neu ar ran y BBC fel rhan o gynllun Gorwelion 12 neu mewn cysylltiad â’r cynllun sy’n cynnwys y bandiau / artistiaid, mae’r bandiau / artistiaid yn cadarnhau’r canlynol: (i) mai eu gwaith gwreiddiol hwy eu hunain yw deunydd o’r fath, nad yw’n ddifenwol ac nad yw’n torri unrhyw gyfraith yn y Deyrnas Unedig; (ii) bod gan y bandiau / artistiaid hawl i roi caniatâd i’r BBC ei ddefnyddio at y dibenion a bennwyd uchod; a (iii) bod y bandiau / artistiaid wedi cael caniatâd gan unrhyw un y gellir ei adnabod yn y deunydd, neu ei riant neu warcheidwad, lle bo hynny’n berthnasol.
Fel arfer, bydd y BBC yn dangos enw bandiau / artistiaid Gorwelion 12 gyda’u cyfraniad, heblaw eu bod wedi gofyn fel arall, ond, oherwydd rhesymau gweithredol, nid yw hyn bob amser yn bosibl. Mae’n bosib y bydd angen i’r BBC gysylltu â bandiau / artistiaid at ddibenion gweinyddu neu ddilysu mewn perthynas â’r deunydd neu mewn perthynas â phrosiectau penodol. Ceir manylion llawn ynglŷn â’r amgylchiadau pryd a sut y byddwn yn cysylltu â’r bandiau / artistiaid ym Mholisi Preifatrwydd y BBC ynghyd ag unrhyw delerau lleol, os yn berthnasol.
Os nad yw bandiau / artistiaid eisiau rhoi’r caniatâd a nodir uchod ar y telerau hyn, ni ddylent ymgeisio ar gyfer y cynllun.
Rhaid i’r caneuon / cerddoriaeth fod yn addas ar gyfer eu darlledu (fel y nodir yn Nhelerau ac Amodau Gorwelion h.y. rhaid i’r iaith gydweddu â Safonau Golygyddol y BBC).
Disgwylir i aelodau’r panel dethol arwyddo datganiad yn dweud eu bod yn ddiduedd.
Bydd BBC Cymru Wales a Chyngor Celfyddydau Cymru’n cadw’r hawl i ganslo neu addasu’r cynllun ar unrhyw adeg os ystyrir hynny’n angenrheidiol yn olygyddol neu os yw’r amgylchiadau yn newid am resymau y tu hwnt i’w rheolaeth a bod gofyn gweithredu fel hyn oherwydd hynny.
Gweinyddir y cynllun hwn gan y BBC mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru ac mae’n ddarostyngedig i gyfraith Cymru a Lloegr.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau ynglŷn â thelerau ac amodau Gorwelion, neu os ydych yn gymwys ar ei gyfer, cysylltwch â’r BBC drwy gorwelion@bbc.co.uk