Main content

Gorwelion 12: Gwyboadaeth Personol

Mae’ch ymddiriedaeth chi yn bwysig iawn i ni. Felly, mae’r BBC yn ymrwymedig i amddiffyn preifatrwydd a diogelwch eich gwybodaeth bersonol chi.

Mae’n bwysig eich bod yn darllen yr hysbysiad hwn er mwyn i chi wybod sut a pham rydym yn defnyddio’r wybodaeth honno. Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn disgrifio sut rydym yn casglu ac yn defnyddio gwybodaeth bersonol amdanoch chi yn ystod eich perthynas â ni, ac wedi hynny, yn unol â deddfwriaeth diogelu data.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ym Mholisi Preifatrwydd y BBC. Os bydd anghysondeb rhwng y dogfennau hynny a'r hysbysiad hwn, yr hysbysiad hwn fydd yn drech. Cewch wybod mwy am eich gwybodaeth a’ch preifatrwydd yma

Beth y byddwn yn ei gasglu a sut byddwn yn ei ddefnyddio?

Bydd y BBC yn casglu ac yn prosesu’r wybodaeth bersonol rydych wedi’i rhoi i ni amdanoch eich hun. Yr wybodaeth bersonol yma ydy enw, cyfeiriad, manylion cyswllt a rhywedd.

Bydd yr wybodaeth bersonol y byddwch yn ei darparu yn cael ei phrosesu er mwyn cynhyrchu a datblygu cynnwys a hefyd ar gyfer gweinyddu’r gwaith o gynhyrchu’r cynnwys hwnnw.

Y BBC yw “rheolydd data” yr wybodaeth yma. Mae hyn yn golygu mai’r BBC fydd yn penderfynu ar gyfer beth y bydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei defnyddio, a sut y bydd yn cael ei phrosesu.

Mae’r ffordd y mae’r BBC yn prosesu’ch gwybodaeth bersonol wedi’i seilio’n gyfreithiol ar fuddiannau cyfreithlon y BBC yn y gwaith o gynhyrchu cynnwys. Pan fyddwn yn prosesu’ch gwybodaeth bersonol ar gyfer ein buddiannau cyfreithlon ni, byddwn yn ystyried unrhyw effaith arnoch chi yn ofalus ac ni fyddwn yn defnyddio’ch gwybodaeth bersonol os yw’r effaith hwnnw’n drech na’n buddiannau ni.

Am ba hyd y byddwn yn cadw’ch gwybodaeth?

Bydd y BBC yn cadw'ch gwybodaeth tan 2025.

Rhannu gwybodaeth:

Byddwn yn rhannu’r wybodaeth y byddwch yn ei darparu â Chyngor Celfyddydau Cymru.

Bydd enwau a chyfeiriadau e-bost ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu rhannu â Soundmouse, trydydd parti sy’n casglu data amrywiaeth ar gyfer y BBC a darlledwyr eraill er mwyn monitro amrywiaeth ar draws y diwydiant.

Eich hawliau a rhagor o wybodaeth:

Os byddwch eisiau adolygu, cadarnhau neu gywiro’ch gwybodaeth bersonol, gwneud cais i’w dileu neu wrthwynebu i’ch gwybodaeth bersonol gael ei phrosesu, ewch i’n Polisi Preifatrwydd. Yno hefyd, cewch ragor y wybodaeth am sut mae’r BBC yn prosesu’ch gwybodaeth a sut y gallwch gysylltu â Swyddog Diogelu Data'r BBC.

Os bydd gennych chi unrhyw gwestiynau i’w gofyn am y ffordd y mae’r BBC yn delio â’ch gwybodaeth bersonol, neu os ydych yn dymuno cysylltu â'r BBC i arfer eich hawliau mewn perthynas â’ch gwybodaeth bersonol, ewch i http://www.bbc.co.uk/usingthebbc/privacy.

Os byddwch yn cyflwyno cwyn i’r BBC am y ffordd y gwnaeth ddelio â'ch gwybodaeth bersonol, mae gennych hawl i gwyno wrth awdurdod goruchwylio. Yn y DU, yr awdurdod goruchwylio yw Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO). Gallwch gysylltu â’r Swyddfa yn: https://ico.org.uk/concerns/.