Main content

Telerau ac Amodau Sgwenni Stori Aled Hughes (y 'Gystadleuaeth')

1. Trefnir y Gystadleuaeth gan y BBC mewn cydweithrediad ag Ysgolion Cymru.

2. Mae Cod Ymddygiad y BBC ar gyfer Cystadlaethau a Phleidleisiau yn berthnasol i’r Gystadleuaeth hon. Gallwch ddarllen mwy am hyn yma: Polisi Cystadlaethau’r BBC.

3. Mae’r Gystadleuaeth hon yn agored i bersonau sy’n mynychu Ysgol Gynradd neu Ysgol Uwchradd ac sydd ym mlynyddoedd 2, 3 a 4 (Cyfnod datblygu 2), blynyddoedd 5 a 6 (Cyfnod datblygu 3), a blynyddoedd 7, 8 a 9 (Cyfnod datblygu 4) mewn unrhyw Ysgol sydd o fewn ffiniau Cymru, ac eithrio personau sydd yn perthyn i weithwyr y BBC neu gwmni Grŵp y BBC, neu unrhyw un sy’n gysylltiedig â’r Gystadleuaeth (yr ‘Ymgeisydd’). Efallai y bydd angen dangos tystiolaeth o bwy ydych chi, eich oedran a’ch bod yn gymwys i gymryd rhan. Os nad yw Ymgeisydd yn ddisgybl mewn ysgol, caniateir iddo gymryd rhan fel unigolyn.

4. Y Wobr i’r tri (3) ymgeisydd buddugol yn y Gystadleuaeth hon yw pecyn o lyfrau gan Gyngor Llyfrau Cymru ac ymweliad i ysgol yr ymgeisydd gan awdur.

Sut i gystadlu

5. Mae’r Gystadleuaeth hon yn agor ar 13 Ionawr 2026 a’r dyddiad cau ar gyfer ymgeisio yw 17:00 ar 5 Mawrth 2026 (y ‘Dyddiad Cau’). Mae’r BBC yn cadw’r hawl i ymestyn y Dyddiad Cau ar gyfer y Gystadleuaeth hon yn ôl ei ddisgresiwn ei hun. Cyhoeddir enwau’r enillwyr ar 28 Ebrill 2026.

6. Rhaid i Ymgeiswyr ysgrifennu stori fer ffuglennol yn Gymraeg sy’n dilyn paragraff agoriadol a ddarperir. Ni ddylai’r stori gynnwys mwy na 500 gair (heb gynnwys y paragraff agoriadol a ddarperir). Gellir teipio’r Ceisiadau neu eu hysgrifennu â llaw (rhaid i’r holl stori fod yn ddarllenadwy) a gellir eu cyflwyno drwy’r post neu drwy’r ffurflen ymgeisio ar-lein (dolen yma). Ni dderbynnir unrhyw ddull arall o gystadlu.

7. Rhaid i’r holl geisiadau gael eu cyflwyno gan riant, gwarcheidwad, neu athro’r ymgeisydd (yr ‘Oedolyn Cyfrifol’).

7.1. Gellir cyflwyno ceisiadau drwy law’r Ysgol neu’r rhieni. Mae’n rhaid i’r Oedolyn Cyfrifol anfon y straeon mewn un amlen, ynghyd â ffurflen gystadlu, yn egluro o ba ysgol y cawsant eu hanfon (lle bo hynny’n berthnasol) ac ym mha gategori oedran a pha flwyddyn ysgol/cam datblygu y maent yn cystadlu. Bydd y straeon eu hunain yn cynnwys ffugenw a ddewisir gan y plentyn a’r Oedolyn Cyfrifol ac enw’r ysgol yn unig ar dop pob papur. Ni ddylai enw’r plentyn ymddangos yn unman ar y papur nac yn yr amlen. Bydd yr athro yn cadw rhestr o’r ffugenwau ynghyd ag enwau go iawn y disgyblion yn yr ysgol. Rhaid anfon y straeon i BBC Radio Cymru, Bryn Meirion, Bangor, LL57 2BY erbyn y Dyddiad Cau a nodir uchod. Gadewch ddigon o amser i’r straeon ein cyrraedd ni. Bydd unrhyw ymgais a ddaw i law ar ôl y Dyddiad Cau yn cael ei diystyru.

7.2. Gall Oedolion Cyfrifol hefyd gyflwyno ceisiadau drwy lenwi ffurflen ymgeisio ar-lein ar wefan Sgwennu Stori Aled Hughes, lle gellir llwytho straeon i fyny fel PDF neu ddelwedd (rhaid i'r stori gyfan fod yn ddarllenadwy). Gellir cyflwyno hyd at 50 o geisiadau fesul swp. Gall athrawon gyflwyno mwy nag un swp o geisiadau.


8. Cyn cystadlu yn y Gystadleuaeth, rhaid i’r athro sy’n anfon y straeon sicrhau bod rhiant neu warcheidwad yr Ymgeisydd wedi darllen y Telerau ac Amodau hyn a chytuno iddynt. Ystyrir bod yr ymgeiswyr wedi derbyn y telerau ac amodau a chytuno i gael eu rhwymo wrthynt wrth gofrestru. Bydd yn rhaid i oedolyn (athro/pennaeth/rhiant/gwarcheidwad) gymeradwyo’r ymgais. Yn achos y 3 ar y brig, bydd y BBC yn cysylltu â’r athro a gyflwynodd y straeon i ofyn am gadarnhad o’r caniatâd a gafwyd gan riant neu warcheidwad yr Ymgeisydd.

9. Dim ond drwy eu hysgol neu eu rhiant/gwarcheidwad y gall ymgeiswyr gymryd rhan. Dim ond un ymgais a ganiateir i bob person. Os cyflwynir mwy nag un ymgais, dim ond ymgais gyntaf yr Ymgeisydd fydd yn cael ei hystyried.

10. Bydd yr Ymgeiswyr yn ysgrifennu stori i ddilyn paragraff agoriadol a ddarperir gan Radio Cymru, a fydd wedi'i gynnwys ar y ffurflenni ymgeisio sydd ar gael ar wefan Sgwennu Stori Aled Hughes. Dylid cwblhau’r Ceisiadau ar y ffurflenni ymgeisio a ddarperir lle bo hynny'n bosibl. Rhaid i’r Ceisiadau fod yn ddarnau gwreiddiol o ffuglen sy’n seiliedig ar thema benodol, ac ni ddylent fod yn gofnod o ddigwyddiadau go iawn – rhai hanesyddol na chyfredol. Ond, gall y straeon gynnwys cymeriadau adnabyddus o’r presennol neu’r gorffennol (e.e. Gareth Bale neu Owain Glyndŵr), gallant ddigwydd mewn cyfnodau hanesyddol (e.e. Cyfnod Llywelyn Fawr) neu ddefnyddio profiadau bywyd go iawn fel man cychwyn creadigol, cyn belled bod y stori yn FFUGLENNOL. Mae'r Ymgeisydd yn gwarantu nad yw wedi cynnwys deunydd na digwyddiadau go iawn, nac wedi defnyddio manylion personol unrhyw bersonau byw yn y stori. Bydd y straeon yn cael eu cyhoeddi, felly mae’n bwysig nad yw’r Ymgeiswyr yn cynnwys unrhyw fanylion personol amdanynt eu hunain.

11. Rhaid i geisiadau fod yn waith gwreiddiol gan yr Ymgeisydd, a pheidio â thresmasu ar hawliau unrhyw barti arall. Yn ogystal, ni chaniateir defnyddio offer Deallusrwydd Artiffisial cynhyrchiol i greu unrhyw ran o stori fer. Nid yw'r BBC yn derbyn unrhyw atebolrwydd os bydd ymgeiswyr yn anwybyddu’r Telerau ac Amodau hyn, ac mae rhiant, gwarcheidwad neu athro’r Ymgeisydd yn cytuno i indemnio’r BBC yn erbyn unrhyw hawliadau gan unrhyw drydydd parti a fydd yn codi yn sgil unrhyw achos o dorri’r Telerau ac Amodau hyn.

12. Does dim modd dychwelyd y straeon, felly cofiwch gadw copi. Ni chysylltir ag ymgeiswyr aflwyddiannus mewn perthynas â’u straeon ac ni roddir adborth ar unrhyw ymgais.

13. Rhaid i bob stori fer fod yn waith gwreiddiol gan yr Ymgeisydd, a pheidio â thresmasu ar hawliau unrhyw barti arall. Nid yw'r BBC yn derbyn unrhyw atebolrwydd os bydd Ymgeiswyr yn anwybyddu’r Telerau ac Amodau hyn, ac mae’r Ymgeiswyr yn cytuno i indemnio’r BBC yn erbyn unrhyw hawliadau gan unrhyw drydydd parti a fydd yn codi yn sgil unrhyw achos o dorri’r Telerau ac Amodau hyn.

14. Ni chaiff y straeon gynnwys deunydd difenwol, anweddus na sarhaus, nac unrhyw ddeunydd anaddas arall. Rhaid i’r straeon fod yn addas i’w darlledu, eu cyhoeddi neu eu defnyddio ar-lein gan y BBC ar gyfer cynulleidfaoedd o bob oed, ond yn benodol ar gyfer plant. Edrychwch ar y canlynol i gael rhagor o wybodaeth: Canllawiau Golygyddol y BBC. Os bydd cynnwys y stori yn peri gofid, gall y BBC geisio cyngor gan yr NSPCC (os oes angen), a gall gyfeirio’r cynnwys sy’n peri gofid at yr awdurdodau perthnasol yn unol â Pholisi Amddiffyn Plant y BBC.

15. Bydd Ymgeiswyr yn cadw’r hawlfraint ar eu straeon ond yn rhoi trwydded fyd-eang, barhaus, anghyfyngedig, heb freindal, i gyhoeddi, darlledu (ar draws yr holl gyfryngau), a phostio’r straeon ar-lein ac ar unrhyw lwyfannau eraill nas rhagwelir ar hyn o bryd. Ystyrir bod y drwydded yn cynnwys pob hawl a chaniatâd sydd eu hangen i alluogi defnydd o’r fath gan y BBC, i gyflawni’r gwobrau, ac i gwblhau’r gwaith o weinyddu’r Gystadleuaeth hon.

16. Drwy gyflwyno stori, mae’r Ymgeisydd yn cytuno y gall y BBC, yn ôl ei ddisgresiwn llwyr, olygu, addasu, cwtogi neu gyfieithu’r ymgais at y dibenion a restrir yng nghymal 15 uchod.

17. Os bydd stori yn cael ei chyhoeddi ar-lein yn www.bbc.co.uk/radiocymru, ni fydd hynny’n rhan o’r broses feirniadu nac yn dylanwadu arni. Dim ond teitl y stori, enw ac oedran yr Ymgeisydd fydd yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymgais.

Meini Prawf Beirniadu

18. Bydd y straeon byrion yn cael eu beirniadu yn unol â’r meini prawf canlynol:

18.1. Gwreiddioldeb

18.2. Plot

18.3. Cymeriadu

18.4. Y Gymraeg

18.5. Mwynhad

19. Bydd y straeon yn cael eu beirniadu gan banel o feirniaid – a fydd yn cynnwys awduron llyfrau plant Cymraeg, ynghyd â ffigwr golygyddol o’r BBC. Bydd y panel yn darllen ac yn sgorio’r straeon di-enw hyn gan ddefnyddio’r meini prawf uchod, er mwyn creu rhestr o 3 stori fuddugol, un ym mhob categori oedran.

20. Efallai y bydd y 3 ymgais fuddugol yn cael eu darllen a’u darlledu ar Radio Cymru. Hefyd, gall straeon y 3 enillydd gael eu cyhoeddi mewn papurau newydd rhanbarthol a lleol.

21. Bydd penderfyniad y BBC ynghylch pob cam o’r Gystadleuaeth hon, y swp a anfonir at y beirniaid a’r 3 enillydd, yn derfynol. Ni fyddwn yn gohebu mewn perthynas â hyn.

22. Mae’r wobr fel y nodir. Nid oes dim opsiwn ariannol yn lle’r wobr, ac nid oes modd gwerthu na throsglwyddo’r wobr o dan unrhyw amgylchiadau. Mae’r BBC yn cadw’r hawl i gyfnewid neu ategu unrhyw elfen o’r wobr. Nid yw’r BBC yn gyfrifol am unrhyw elfen neu newid i’r wobr sydd y tu hwnt i’w reolaeth. Ni all y BBC dderbyn unrhyw gyfrifoldeb dros ansawdd y wobr, nam ar y wobr, na phroblemau yn ymwneud â danfon.

23. Mae’r BBC yn cadw’r hawl i anghymhwyso unrhyw ymgais sy’n torri unrhyw un o’r Telerau ac Amodau hyn, neu i atal gwobr os nad yw’r straeon a gyflwynir yn cyrraedd y safon ofynnol.

24. Mae’r BBC yn cadw’r hawl i (i) newid y Telerau a’r Amodau hyn neu ganslo’r Gystadleuaeth ar unrhyw adeg os tybir bod hynny’n angenrheidiol yn ei farn ef neu os bydd amgylchiadau’n codi y tu allan i’w reolaeth, (ii) gwahardd unrhyw Ymgeisydd sy’n torri’r Telerau a’r Amodau hyn, sydd wedi ymddwyn yn dwyllodrus mewn unrhyw ffordd, neu sy’n wedi dwyn anfri ar y BBC (yn ôl ei ddisgresiwn llwyr).

25. Ni all y BBC, ei is-gontractwyr, ei is-gwmnïau, ei asiantaethau a/neu unrhyw sefydliad arall sy’n gysylltiedig â’r Gystadleuaeth hon dderbyn dim cyfrifoldeb am unrhyw fethiant neu ddiffyg technegol, nac am unrhyw broblem arall gyda gweinydd, mynediad i’r rhyngrwyd, system neu unrhyw beth arall a all arwain at golli ymgais, neu at beidio â chofrestru neu gofnodi ymgais yn iawn. Ni fydd y BBC yn cydnabod ei fod wedi derbyn straeon a anfonir drwy’r post, ac nid yw’n derbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw ymgais sy’n hwyr, wedi mynd a’r goll, neu wedi’i difrodi. Nid yw prawf o anfon yn brawf o dderbyn.

26. Ystyrir bod Ymgeiswyr wedi derbyn y Telerau ac Amodau a’u bod yn cytuno i gael eu rhwymo wrthynt wrth gyflwyno ymgais i’r Gystadleuaeth hon. Pan fo ymgais yn cael ei hanfon gan drydydd parti ar ran Ymgeisydd (e.e. Athro yn anfon ymgais ar ran disgybl gyda chaniatâd rhiant/gwarcheidwad), y parti sy’n anfon yr ymgais sy’n gyfrifol am sicrhau bod yr Ymgeisydd yn cydymffurfio â’r Telerau ac Amodau. Bydd unrhyw ymgais sy’n torri Telerau ac Amodau’r Gystadleuaeth hon yn cael ei gwahardd o’r gystadleuaeth.

27. Os penderfynir bod unrhyw un o’r cymalau hyn yn anghyfreithlon, yn annilys neu’n anorfodadwy fel arall, yna caiff ei dorri ymaith a’i ddileu o’r Telerau a’r Amodau hyn a bydd y cymalau sy’n weddill yn goroesi, ac yn parhau mewn grym ac effaith lawn.

28. Mae’r Telerau a’r Amodau hyn yn cael eu rheoli gan gyfreithiau Cymru a Lloegr.