Radio Cymru: Cystadleuaeth Stori Fer Aled Hughes 2026

Sut mae gwneud cais:

  • Gallwch gyflwyno ceisiadau ar ran plentyn, neu fwy nag un plentyn, gan ddefnyddio'r ffurflen isod.
  • Gellir cyflwyno hyd at 50 o geisiadau ar yr un pryd.
  • Gellir llwytho ceisiadau i fyny fesul un neu mewn sypiau, ar yr amod eu bod i gyd o'r un ysgol.
  • Gwnewch yn siŵr nad yw enwau go iawn y plant ar y ffurflenni cais, a bod eu categori oedran wedi'i nodi'n glir.
  • Rhaid cynnwys y ffurflen gais gyflawn yn y ffeil sy’n cael ei llwytho i fyny, boed hi wedi'i llenwi mewn llawysgrifen neu wedi'i theipio.

Mae gennych chi tan 17:00 ar 5 Mawrth 2026 i lwytho eich ceisiadau i fyny.

Gallwch anfon ceisiadau drwy’r post o hyd. Mae’r holl fanylion ar gael ar wefan Radio Cymru.

Am ragor o wybodaeth am sut y bydd y BBC yn prosesu eich data personol, darllenwch yr hysbysiad preifatrwydd.