Main content

Diwrnod Gorau Erioed

Mae cystadleuaeth fwyaf erioed yr orsaf yn agor ar y 23ain o Chwefror 2026.

Bydd cyfle i wrandawyr BBC Radio Cymru 2 ennill gwobrau arbennig drwy gymryd rhan yng nghystadleuaeth Diwrnod Gorau Erioed – cystadleuaeth fwyaf yr orsaf hyd yma.

O brofiadau cerddorol i ddigwyddiadau chwaraeon a chyfleoedd unigryw, bydd gwobr newydd ar gael i’w hennill bob wythnos dros gyfnod o bedair wythnos.

Trefn y gystadleuaeth:

O 23 Chwefror: cyfle i ennill pâr o docynnau i weld Cymru yn herio Bosnia yn ymgyrch pêl-droed Cwpan y Byd.
O 02 Mawrth: cyfle i gipio tocynnau i weld Lewis Capaldi a Katy Perry yng Nghaerdydd.
O 09 Mawrth: cyfle i deulu neu grŵp o bedwar ennill tocyn penwythnos Traitors yr Urdd ym Mhentref Ifan.
O 16 Mawrth: cyfle i ennill pâr o docynnau i ffeinal Strictly Come Dancing 2026 yn y stiwdios yn Llundain.

Cyflwynwyr yr orsaf, Lisa Gwilym a Rhydian Bowen Phillips fydd wrth y llyw yn arwain Diwrnod Gorau Erioed, gyda help llaw ambell i wyneb cyfarwydd.

I ymgeisio, bydd angen i wrandawyr ddilyn y linc yma gan ddyfalu'r gair coll o gân boblogaidd a fydd yn cael ei chwarae ar raglenni BBC Radio Cymru 2 o fore Llun i fore Iau.

I ddarganfod mwy, gwrandewch ar BBC Radio Cymru 2 yn fyw ar y radio neu ar BBC Sounds. Mae modd hefyd dilyn y cyffro ar gyfrifon cymdeithasol yr orsaf.