Hysbysiad Preifatrwydd Radio Cymru 2
Mae eich ymddiriedaeth yn bwysig iawn i ni. Mae hynny’n golygu bod y BBC wedi ymrwymo i ddiogelu preifatrwydd a diogelwch eich data personol. Mae'n bwysig eich bod yn darllen yr hysbysiad hwn fel eich bod yn ymwybodol o sut a pham rydyn ni'n defnyddio data personol o'r fath. Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn disgrifio sut rydyn ni’n casglu ac yn defnyddio data personol amdanoch chi yn ystod ac ar ôl eich perthynas â ni, yn unol â'r gyfraith diogelu data.

Pam rydyn ni’n gwneud hyn a sut allwch chi gymryd rhan?
Drwy’r flwyddyn byddwn yn rhedeg cystadlaethau yn ystod ein rhaglenni dyddiol ar Radio Cymru 2, lle bydd modd ennill tocynnau, nwyddau neu dalebau.
I gael cyfle i ennill, gwrandewch am ‘arwydd i alw’ gan y cyflwynydd yn ystod rhaglenni
Radio Cymru 2 o ddydd Llun i ddydd Iau. Pan fydd yr ‘arwydd i alw’ yn cael ei chwarae fel darn o sain/cerddoriaeth, bydd gwrandawyr yn cael eu gwahodd i ffonio a chofrestru i chwarae.
Bydd un cystadleuydd yn cael ei ddewis drwy ddefnyddio system dewis rhifau ar hap. Yna byddwn yn ffonio’r cystadleuydd yn ôl er mwyn iddynt ateb cwestiwn gwybodaeth gyffredinol yn fyw ar yr awyr, i ennill mwy o wobrau.
Os byddwn yn darlledu eich cyfraniad ar yr awyr, gall hyn gynnwys bod y rhaglen ar gael ar-lein a/neu ar-alw, a gallai eich cyfraniad gael ei ddefnyddio eto mewn darllediad yn y dyfodol.
Efallai y byddwn yn defnyddio eich cyfraniad at ddibenion hyrwyddo ar gyfrifon cyfryngau cymdeithasol y BBC.
Pa ddata personol fydd y BBC yn ei gasglu?
Mae’n rhaid i chi fod yn 18 oed neu’n hŷn i gymryd rhan yn y gystadleuaeth.
Bydd y BBC yn casglu ac yn prosesu’r data personol canlynol amdanoch chi:
• Enw
• Ardal leol
• Rhif ffôn cyswllt
Os ydych yn ddigon ffodus i ennill, byddwn hefyd yn gofyn am eich cyfeiriad e-bost er mwyn i ni allu e-bostio eich gwobr atoch.
Pwy yw’r Rheolwr Data?
Y BBC yw “rheolwr data” eich data personol. Mae hyn yn golygu bod y BBC yn penderfynu ar gyfer beth y defnyddir eich data personol, a'r ffyrdd y caiff ei brosesu. Er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth, bydd eich data personol yn cael ei gasglu a'i brosesu at y dibenion a nodir yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn yn unig. Fel y rheolwr data, mae gan y BBC gyfrifoldeb i gydymffurfio a dangos cydymffurfiaeth â'r gyfraith diogelu data.
Sail gyfreithlon ar gyfer prosesu eich data personol
Y sail gyfreithlon y mae'r BBC yn prosesu'ch data personol arni yw perfformio ei rôl gyhoeddus. Rôl y BBC yw gweithredu er budd y cyhoedd ac i wasanaethu ei holl gynulleidfaoedd gyda chynnwys sy'n hysbysu, yn addysgu ac yn diddanu.
Mae gennym hefyd “rwymedigaeth gyfreithiol” i gadw data personol enillwyr er mwyn i ni allu profi bod y gystadleuaeth yn deg.
Rhannu eich data personol
Mae’r BBC yn gweithio gyda’n darparwyr trydydd parti cymeradwy sy’n ein helpu i ddarparu rhai o’n gwasanaethau. Dim ond ar ran y BBC y mae'r partneriaid hyn yn defnyddio'ch data personol ac nid yn annibynnol ar y BBC.
Mae’n bosibl y byddwn yn rhannu data personol â thrydydd parti lle mae’n ofynnol neu y caniateir i ni wneud hynny yn ôl y gyfraith.
Cadw eich data personol
Rydym yn cadw cofnodion o’r enillwyr am ddwy (2) flynedd at ddibenion archwilio a chydymffurfio.
Os darlledir eich cyfraniad, bydd eich data personol yn cael ei gadw a’i archifo am byth gan y BBC.
Bydd data personol pob cystadleuydd arall yn cael ei ddileu ar ôl i’r gystadleuaeth ddod i ben y diwrnod hwnnw.
Bydd eich data personol yn cael ei storio yn y DU a’r AEE.
Eich hawliau a mwy o wybodaeth
Mae gennych hawliau o dan y gyfraith diogelu data:
• Gallwch ofyn am gopi o'r data personol y mae'r BBC yn ei storio amdanoch chi.
• Mae gennych hawl i ofyn i ni gywiro unrhyw ddata personol anghywir neu anghyflawn sydd gennym amdanoch.
• Mae gennych hawl i ofyn i’r data personol a gasglwn amdanoch gael ei ddileu, serch hynny, mae cyfyngiadau ac eithriadau i’r hawl hon a all roi’r hawl i’r BBC wrthod eich cais.
• Mewn amgylchiadau penodol, mae gennych hawl i gyfyngu prosesu eich data personol neu i wrthwynebu prosesu eich data personol.
• Mae gennych hawl i ofyn i ni drosglwyddo’r data personol i chi neu sefydliad arall, mewn amgylchiadau penodol.
Gallwch gysylltu â'n Swyddog Diogelu Dataos oes gennych gwestiynau, neu os ydych am gael mwy o fanylion am eich hawliau ewch i Bolisi Preifatrwydd a Chwcis y BBC yn Eich Gwybodaeth a’ch Preifatrwydd - Defnyddio'r BBC.
Os oes gennych bryderon ynglŷn â’r ffordd y mae’r BBC wedi trin eich data personol, gallwch godi eich pryderon gyda’r awdurdod goruchwylio yn y DU, sef Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) https://ico.org.uk/.
Diweddaru’r hysbysiad preifatrwydd hwn
Byddwn yn adolygu'r hysbysiad preifatrwydd os bydd newidiadau sylweddol i'r ffordd rydyn ni’n defnyddio'ch data personol.