Gwahodd enwebiadau am Fedal Wyddoniaeth a Thechnoleg
- Cyhoeddwyd

Neville Evans oedd enillydd Medal Wyddoniaeth a Thechnoleg yr Eisteddfod eleni
Mae'r Eisteddfod Genedlaethol yn gwahodd enwebiadau ar gyfer medal sy'n anrhydeddu unigolion sydd wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fyd Gwyddoniaeth a Thechnoleg, a hynny drwy gyfrwng y Gymraeg.
Cafodd y Fedal Wyddoniaeth a Thechnoleg ei sefydlu yn 2004.
Caiff ei chyflwyno yn flynyddol i unigolyn sydd wedi creu argraff ym myd Gwyddoniaeth a Thechnoleg.
Neville Evans enillodd y Fedal yn 2011, dolen allanol, ac mae cyn-enillwyr yn cynnwys Yr Athro Gareth F Roberts, Dr Eirwen Gwynn a'r Athro Glyn O Phillips.
Ar hyn o bryd mae gwahoddiad am enwebiadau ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg 2012.
Cyhoeddir enw'r enillydd ym mis Ebrill ac fe'i h/anrhydeddir mewn seremoni yn ystod wythnos yr Eisteddfod.
'Rhywbeth normal'
Ar ôl ennill y wobr eleni, dywedodd Mr Evans bod mwy o waith i'w wneud i hybu gwyddoniaeth yng Nghymru.
"Mae'n fy nhristau nad yw papurau a chylchgronau yn y Gymraeg yn cynnwys erthyglau gwyddonol yn rheolaidd," meddai.
"Fe garwn i fod papurau newydd yn cynnwys erthyglau gwyddonol yn gyson fel bod pobl yn gallu deall bod trafod gwyddoniaeth yn rhywbeth normal.
"Mae mudiadau fel Merched y Wawr yn dweud nad ydyn nhw'n cael sgyrsiau am wyddoniaeth.
"Felly, byddwn i'n hoffi petai pob mudiad yn cynnwys o leiaf un sgwrs am wyddoniaeth yn ystod y flwyddyn."
Dylid anfon enwebiad gyda chrynodeb o waith a chyfraniad y sawl a enwebir at Drefnydd yr Eisteddfod, Swyddfa'r Eisteddfod, 15 Parc Busnes Yr Wyddgrug, Ffordd Wrecsam, Yr Wyddgrug CH7 1XP erbyn 31 Ionawr 2012.
Mae'r ffurflen enwebu ar gael i'w lawrlwytho o wefan yr Eisteddfod.