Delwedd: Chris McCausland a Dianne Buswell, enillwyr Strictly Come Dancing BBC One (BBC Studios/BBC One)
£243m
- £243m o gyllidebau comisiynu teledu a radio presennol wedi’i wario ar gynnwys sy’n gymwys o dan y meini prawf amrywiaeth greadigol 0 2021 i 2023, gan ragori’n helaeth ar ein hymrwymiad cychwynnol i wario £112 miliwn mewn tair blynedd.
TV Access Project
- Partneriaeth o ddeg o ddarlledwyr a ffrydiau’r DU i greu newid yn y diwydiant ar gyfer cynhwysiant pobl fyddar, anabl a/neu niwrowahanol ar y sgrin ac oddi ar y sgrin. Yn 23/24 roedd gan dros 30 o gynyrchiadau’r BBC Gydlynwyr Mynediad a chyhoeddasom brotocolau cyllid mynediad newydd ar gyfer pob cynhyrchiad.
Hygyrchedd i gynulleidfaoedd
- Camau sylweddol i sicrhau bod ein cynnwys yn hygyrch gydag isdeitlau, disgrifiadau sain neu Iaith Arwyddion Prydain e.e. Strictly Come Dancing, Doctor Who a Glastonbury
Cyflawni sefydliad lle ceir cydbwysedd rhwng y rhywiau ym mis Chwefror 2023
9.7% o gynrychiolaeth mewn anabledd oddi ar y sgrin
- I fyny o 5.8% ym mis Mawrth 2020
Ail-lansio BBC Extend
- Ail-lansio BBC Extend – ein rhaglen flaenllaw i neilltuo rolau yn unol â Deddf Cydraddoldeb 2010 ar gyfer pobl anabl, a all gynnwys y rheini sy’n ystyried eu bod yn fyddar a/neu’n niwrowahanol
11,000 o aelodau o’n rhwydweithiau staff a’n grwpiau cymunedol
BBC Enigma
- Lansio BBC Enigma, ein rhwydwaith staff i bobl niwrowahanol yn y BBC.
Mae mwy na 2,000 o bobl bellach wedi cymryd rhan yn ein rhaglenni Hot Shoes neu 80/20
- Mae mwy na 2,000 o bobl bellach wedi cymryd rhan yn ein rhaglenni Hot Shoes neu 80/20 sy’n rhoi profiad i bobl o weithio mewn timau eraill ar draws y BBC.
- Mae 1,300 o Brentisiaid Gyrfaoedd Cynnar a Staff wedi dechrau ar eu cynllun ers 2021. Mae ein cynllun Prentisiaid Gyrfaoedd Cynnar clodwiw wedi sicrhau cyfradd gyflawni eithriadol o 89% a denodd 27,000 o ymgeiswyr y flwyddyn ddiwethaf.
- Lansio Mynegai Arweinwyr y BBC i ddwyn arweinwyr i gyfrif am amrywiaeth, cynhwysiant ac ymgysylltiad eu timau.
82%
Yn 23/24, llwyddodd 82% o’n cynyrchiadau i gyrraedd ein targed o 20% o ran timau cynhyrchu amrywiol, gan ddangos cynnydd o flwyddyn i flwyddyn o ran anabledd, ethnigrwydd ac amrywiaeth economaidd-gymdeithasol mewn adroddiadau Diwedd Cynhyrchiad
Newid iaith:


