Delwedd: Mr Loverman (Fable Pictures, BBC One)
Mae Pwyllgor Gweithredol y BBC yn rhannu ein huchelgeisiau ar gyfer y strategaeth hon. Dyma sylwadau gan rai ohonynt ynglŷn â pham mae’n bwysig iddynt:
Rwy’n eithriadol o falch o fod yn noddwr gweithredol ar gyfer ein rhwydwaith staff mwyaf newydd, BBC Enigma – cymuned ddynamig sy’n ffynnu ar gyfer ein cydweithwyr niwrowahanol, sy’n cynnig lle i gynghreiriaid ymuno a dysgu. Mae’r rhwydwaith eisoes yn torri cwys newydd gyda’i raglen arloesol o waith gyda phartneriaid o fewn y BBC a thu hwnt. Mae ganddo rôl hanfodol i’w chwarae hefyd o ran creu ymdeimlad o berthyn ar draws y sefydliad cyfan, gan sicrhau bod ein holl ganolfannau ledled y Deyrnas Unedig yn amgylcheddau gwaith cynhwysol a chroesawgar.”
Rydym yn ymrwymedig i hyrwyddo prosesau adrodd straeon o Brydain ac yn cydnabod rôl hanfodol cwmnïau annibynnol a arweinir gan amrywiaeth wrth ddod â straeon dilys yn fyw. Drwy roi hwb i’n buddsoddiad mewn cynnwys amrywiol a chodi ein targedau amrywiaeth oddi ar y sgrin, rydym yn canolbwyntio ar gyflwyno’r cynnwys mwyaf nodedig gydag ehangder ac amrywiaeth i gynulleidfaoedd ledled y Deyrnas Unedig a chefnogi diwydiannau creadigol y Deyrnas Unedig.”
Drwy ymgorffori amrywiaeth, cynhwysiant ac ymdeimlad o berthyn ym mhopeth a wnawn yn BBC Studios, gallwn greu diwylliant lle mae pob person sy’n gweithio yma yn teimlo ei fod yn cael ei glywed, ei werthfawrogi a’i rymuso. Cyn ymuno â BBC Studios, prin oeddwn wedi profi amgylchedd gweithio lle y gallwn wir fod yn fi fy hun. Rwyf nawr am sicrhau bod pawb sy’n gweithio i ni yn cael yr un cyfle i ffynnu mewn diwylliant sy’n croesawu pwy ydyn nhw. Bydd hyn yn golygu y gallwn barhau i greu cynnwys dilys o’r radd flaenaf sy’n ysbrydoli sgyrsiau ac yn helpu pob un ohonom i wneud synnwyr o’r byd rydym yn byw ynddo.”
Wrth i ni ddechrau ar gam nesaf ein gwaith, i adeiladu ar y cynnydd a wnaed eisoes o ran amrywiaeth a chynhwysiant dros y cyfnod diwethaf, rwy’n awyddus i ni sicrhau ein bod yn rhoi ffocws cryf ar greu ymdeimlad o berthyn wrth wraidd popeth a wnawn ar gyfer ein gweithlu, ein partneriaid a’n cynulleidfaoedd. Gobeithio y byddwn yn creu BBC sy’n cynrychioli Prydain gyfan a’i hamrywiaeth fywiog mewn modd cadarnhaol a dylanwadol.
Gwyddom ein bod am fynd ymhellach ac yn gyflymach o ran ein nod i wella amrywiaeth ein gweithlu ac atgyfnerthu ein cyflenwad o dalent, wrth i ni greu amgylcheddau gweithio sy’n wirioneddol gynhwysol a hygyrch. Nod ein ffocws ar berthyn fydd creu amgylcheddau lle y gall ein holl staff gael amodau i ffynnu ynddynt fel y gallant wneud eu gwaith gorau ar gyfer ein cynulleidfaoedd. A byddwn yn parhau i ysgogi cynnwys dilys gyda’n cynrychiolaeth ar y sgrin ac oddi ar y sgrin, ac yn cefnogi cynhyrchwyr i weithio tuag at dimau cynhyrchu mwy amrywiol a fydd yn galluogi pawb i brofi gwaith y BBC mewn modd pwerus. Yn ei dro, bydd gennym BBC lle mae’r bobl orau yn gwneud eu gwaith gorau, gan greu sefydliad creadigol, arloesol a chynhwysol sy’n destun edmygedd yn fyd-eang.
Rydym wir am sicrhau ein bod yn weithle sy’n amrywiol ac yn gynhwysol ac sydd hefyd yn gwerthfawrogi pawb am eu natur unigryw – amrywiaeth o ran pwy ydynt, eu ffordd o feddwl, a’r ffordd y maent yn gweithio. Rydym yn gosod y bar yn uwch – gan ganolbwyntio ar berthyn a sicrhau bod ein holl staff, partneriaid a chynulleidfaoedd yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi yn y BBC. Caiff ein gweledigaeth gadarn ei hategu gan ddatganiad cenhadaeth clir: Rydych chi’n perthyn yn y BBC am fod y BBC yn perthyn i chi.”






